Fideos i helpu ddatrys problemau yn eich cartref

Mae cadw eich cartref mewn cyflwr da yn bwysig.
Mae ein gwasanaeth trwsio ar gael i drwsio problemau yn eich cartref mor fuan ag sy’n bosib.

Mae yna sawl ffordd o wneud cais am waith trwsio:

Anfon cais ar-lein

E-bost: ymholiadau@adra.co.uk
Ffôn: 0300 123 8084

  • Eich cyfrifoldeb chi yw trwsio neu gynnal a chadw’r pethau yma:
    • Ystafell ymolchi – trwsio cypyrddau, drych, cyrten cawod, rheiliau, plygiau a chadwyni
    • Addurno – unrhyw waith peintio neu bapur wal rydych chi eisiau newid
    • Bylbiau – newid unrhyw fylbiau golau
    • Drysau – os ydych wedi cael carpedi newydd ac angen addasu’r drysau
    • Offer trydanol – fel poptai, oergell a pheiriannau golchi dillad
    • Llefydd tân a’r gosodiad o’i amgylch – unrhyw beth i wneud gyda’r gosodiad o amgylch y lle tân a’r badell lludw
    • Gosodiadau a ffitiadau – pethau fel bachau cotiau a rheiliau cyrtens
    • Gerddi – tywyrch, llwyni a gwrychoedd
    • To ar oledd (lean-to) – to/cysgodfa yn sownd i ochr eich cartref
    • Cloeon – os ydych yn colli eich goriad neu drwsio’r drws ar ôl mynediad gorfodol (Ad-daliad)
    • Pwyntiau ffôn
    • Seddi toiled – craciau yn y sedd neu sedd yn rhydd neu osod sedd newydd
    • Erial teledu – ddim yn deledu cymunedol

Fideos i’ch helpu

Yn anffodus, ni all ein tîm wneud bob dim. Ond peidiwch a phoeni dyma fideos byr i’ch helpu gyda rhywfaint o broblemau bychain yn eich cartref.

Awgrym: os yw’r fideos yn rhy gyflym, stopiwch y fideo a’i ail-chwarae pan rydych yn barod.

System Gwresogi

Goleuadau

Pibellau wedi eu blocio

Dŵr yn gollwng

Ffenestri

Awgrymiadau lleithder a llwydni