Byw mewn fflat

Mewn fflat neu fflatiau deulawr  efallai y bydd gennych gymdogion uwch eich pen, o dan eich fflat ac bob ochr i chi felly mae’n bwysig ystyried eich cymdogion I gyd tra’n byw mewn fflat.

  • Niwsans sŵn

    Gall sŵn achosi llawer o ffraeo rhwng tenantiaid.

    Ni fyddwn yn caniatau I denantiaid roi llawr laminet mewn fflatiau, heblaw fflatiau ar y llawr gwaelod gan fod sŵn yn cario.

    Synau eraill sydd ddim yn dderbyniol yw:

    • chwarae cerddoriaeth yn uchel
    • gwrando ar y radio yn uchel
    • gwylio’r teledu yn uchel
    • refio ceir
    • cau drysau yn glep
    • gweiddi yn y cyntedd a grisiau, yn enwedig yn y nos
    • sŵn o waith DIY (mae angen caniatâd i wneud gwaith DIY)

    Os es gennych broblem gyda’ch cymydog yn achosi sŵn y peth cyntaf I’w wneud yw siarad gyda nhw. Efallai and ydynt yn sylwi eu bod yn achosi problem – felly byddwch yn gyfeillgar a pheidio gwylltio.

    Os na fydd hyn yn datrys y broblem cysylltwch â ni:

    Os ydych yn achosi niwsans sŵn i’ch cymdogion byddwch yn torri amodau eich cytundeb tenantiaeth.

    Efallai byddwch yn torri’r gyfraith hefyd.

  • Mannau Cyffredin

    Mae pawb sy’n byw mewn bloc o fflatiau yn gyfrifol o, gadw’r mannau cyffredin yn daclus a glân.
    Mae hyn yn cynnwys:

    • corridorau
    • cynteddau
    • grisiau
    • ben y grisiau

    Mae pob man cyffredin yn cael eu harchwilio yn rheolaidd.

    Bydd disgwyl I chi gadw  beiciau, pram ac ati yn eich fflat a ddim yn y manau cyffredin. Os bydd eitemau fel hyn yn cael eu gadael mewn llefydd cyffredin byddwn yn trefnu eu bod yn cael eu symud.

  • Anifeiliaid Anwes

    Os ydych chi’n berchen ar anifal anwes rhaid I chi wneud yn siwr nad yw unrhyw un o’ch anifeiliaid yn achosi niwsans i’ch cymdogion.

    Mae cyngor pellach am gadw anifeiliaid anwes I’w gael ar ein tudalen Anifeilaid Anwes

  • Diogelwch

    Mae system mynediad yn y mwyafrif o fflatiau fel mai dim ond tenantiaid a’u hymwelwyr sy’n gallu dod i mewn.

    I helpu gadw’r fflatiau yn ddiogel peidiwch â:

    • rhoi rhywbeth yn y drws i’w gadw yn agored (hyn yn cynnwys drysau tân mewnol)
    • gadael y drws yn agored
    • gofyn I gymdogion adael ymwelwyr i mewn i chi
    • gadael rhywun and ydych yn adnabod I mewn i’r adeilad