Cadw anifail anwes
Ar y cyfan rydym yn gadael i gwsmeriaid gadw anifeiliaid anwes yn ein cartrefi.
Rydym yn disgwyl i chi fod yn berchnogion anifeiliaid cyfrifol.
Mae’n rhaid i ddarpar gwsmeriaid nodi unrhyw anifeiliaid ar eu ffurflen gais.
Mae cŵn tywys yn cael eu caniatáu ar gyfer pobl anabl.
Anifeiliaid nad ydym yn eu caniatáu
- anifeiliaid fferm
defaid, wŷn bach, geifr, moch, gwartheg, ceffylau, merlod, ieir a hwyaid - anifeiliaid gwyllt peryglus
nadroedd gwenwynig, rhai mathau o bryfaid cop ac ymlusgiaid fel aligator a chrocodeil - unrhyw gi o dan Deddf Cŵn Peryglus 1991
- bridiau prin
Anifeiliaid sy’n achosi niwsans
Ni fyddwch yn cael cadw anifail anwes os:
- yw’r anifail/ anifeiliaid yn achosi niwsans
- oes gormod o anifeiliaid yn cael eu cadw ar yr un pryd
- oes gennym unrhyw bryderon am les yr anifail/ anifeiliaid
- yw carthion/gweddillion anifail yn cael eu gadael mewn mannau cymunedol neu ardd
Rhaid i denantiaid ofalu am les eu hanifail anwes.
Gallwn ofyn am dystiolaeth fod anifail wedi cael y brechiadau cywir. Byddwn yn gweithio gydag asiantaethau fel RSPCA gydag achosion o greulondeb neu gam-drin.
Os ydych yn cadw cath gofynnwn i chi ei hysbaddu.
Rydym yn argymell hyn ar gyfer cŵn ac anifeiliaid eraill hefyd er mwyn rheoli faint o anifeiliaid sy’n eich cartref. Rydym yn ystyried gormod o anifeiliaid mewn cartref yn niwsans.
Nid ydym yn rhoi hawl i denantiaid redeg busnes o’u cartref, er enghraifft, bridio anifeiliaid.
Pethau i’w hystyried cyn cael anifail
- Mae’n bwysig meddwl pwy fydd yn edrych ar ôl yr anifail pan fyddwch ar eich gwyliau neu ddiwrnod allan
- Oes gennych chi blant ifanc?
Efallai nad oes gennych amser i fynd a’ch ci am dro neu i edrych ar ôl anifail os oes gennych blant ifanc. A fyddai’n ddiogel gadael anifail yn rhydd gyda’ch plant ifanc? - Ydy eich cartref yn addas?
Mae’n bwysig meddwl os oes gennych fynediad hawdd i’r ardd. Ydych chi’n byw yn agos i lôn brysur? - Beth fydd cost cael anifail?
Mae angen ystyried prynu’r anifail i ddechrau yna costau milfeddyg, bwyd a theganau i’r anifail. Mae angen yswirio anifeiliaid hefyd. Gwnewch waith ymchwil i weld faint fyddai hyn yn gostio cyn prynu eich anifail. Rhaid i gŵn dros 8 wythnos oed gael microsglodyn yn ôl y gyfraith, byddai hyn hefyd yn gost ychwanegol. - Fyddai cael anifail yn debygol o achosi niwsans i’ch cymdogion?
Mae’r mwyafrif ohonom eisiau byw yn hapus ymhlith ein cymdogion, gall fod yn syniad da cael sgwrs gyda nhw cyn prynu anifail. Os oes gennych ardal gymunedol yn eich cartref ni ddylech adael carthion/ gweddillion blychau toiled cathod ar lwybrau cymunedol mewnol ac ni ddylai cathod grwydro o amgylch ardaloedd cymunedol mewnol.