Member of Trwsio staff outside Adra van

Gwynedd, Caeredin, Llundain…lle nesa i Thomas

Yn dilyn cwblhau ei brentisiaeth yn ddiweddar mae Thomas wedi bod yn gweithio gyda ni fel plastrwr ag yn prysur gwneud ei farc yn y cwmni ac ar draws y wlad.

Cafodd fuddugoliaeth yng ngwobrau blynyddol Coleg Menai ym mis Tachwedd pam enillodd gwobr Prentis y Flwyddyn.

Yn dilyn cwblhau ei brentisiaeth mewn plastro, gyda rhagoriaeth, cafodd y tiwtoriaid flas o’i waith gan ganmol ei ymrwymiad i ddatblygu ei wybodaeth, sgiliau a’i ddealltwriaeth o’r diwydiant plastro ac adeiladu.

Yn dilyn gweld ei ystod eang o sgiliau, ei allu i ddarganfod datrysiadau i dasgau heriol a a pha mor drylwyr yw ei waith roedd yn cael ei ystyried yn fyfyriwr addas i wobr Prentis y Flwyddyn a mynd ymlaen i gystadlu yn rowndiau terfynol Worldskills yng Nghaeredin.

Felly fyny a fo am yr Alban am wythnos o gystadlu.

Elusen annibynnol ydy Worldskill sydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda cyflogwyr, y byd addysg a’r llywodraeth sydd yn gweithio gyda’u gilydd i godi safonau prentisiaid. Mae 80 o wledydd ar draws y byd yn cymryd rhan.

Roedd yn rhaid i Thomas gystadlu ac arddangos ei sgiliau yn ystod yr wythnos. Roedd pob plastrwr yn derbyn union yr un dasg a pawb yn cael eu beirniadu ar y diwedd, roedd y tasgau yn amrywio o rendro i blasdro i ‘float & set’.

Mae’n bleser cyhoeddi fod Thomas wedi cael wythnos lwyddiannus a wedi dod yn ail yn y gystadleuaeth a bellach yn cael ei cysidro ar gyfer y tîm cenedlaethol.

Croesi bysedd y byddi yn llwyddiannus ac y cei gyfle i fynd gyda’r tîm cenedlaethol i Singapore Thomas.

Yng nghanol hyn mae hefyd wedi bod lawr yn Llundain mewn gwobrau plastro lle cafodd ail wobr.

Gwych!
Rydymy n lwcus iawn cael staff mor dalentog yn gweithio i ni.