Lansio ein Cynllun Corfforaethol newydd – 2022 – 2025

Darllen ein Cynllun Corfforaethol llawn

Crynodeb

Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi beth rydym am ei gyflawni erbyn 2025. Mae’n adlewyrchu ein gweledigaeth a’n gwerthoedd, ein hegwyddorion sylfaenol, a’r gweithredoedd allweddol rydym yn dymuno eu cyflawni.

Gweledigaeth Adra

“i ddarparu gwasanaethau rhagorol i’n cwsmeriaid, buddsoddi yn ein stoc bresennol, ac adeiladu mwy o dai fforddiadwy o ansawdd uchel, carbon isel”

Mae’r cynllun hwn yn nodi’r hyn yr ydym yn gobeithio ei gyflawni fel Grŵp erbyn Mawrth 2025. Mae’n anodd gweld neu rhagweld y dyfodol. Fodd bynnag, trwy fyw ein gwerthoedd o fod yn Arloesol, Dibynadwy, Agored a Theg, credwn fod gennym yr offer sydd ar gael inni i gyflawni’r heriau sydd o’n blaenau, sicrhau cynaliadwyedd y busnes a darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar ein cwsmeriaid i’w galluogi i fyw bywyd sy’n llawn ac yn werth chweil.

Gwyliwch y fideo esboniadol hwn i ddysgu mwy

Gwerthoedd Adra

Bydd ein nodau ar gyfer 2025 yn unol â’n gwerthoedd craidd:

Agored a Theg

Byddwn yn agored ac yn deg o ran sut rydym yn ymateb i gwsmeriaid a sut rydym yn gweithredu ein
busnes. Byddwn yn agored ac yn gynhwysol i bawb, gan weithredu’n deg ac yn ddiduedd a pharchu
urddas ac unigoliaeth pawb. Byddwn yn agored i weithio mewn partneriaeth gydag eraill i hyrwyddo ein amcanion a’n huchelgeisiau.

Uchelgeisiol

Byddwn yn uchelgeisiol wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, gyrru ein ein rhaglen adeiladu o’r newydd ac yn creu cyfleoedd i’n cwsmeriaid. Byddwn yn croesawu creadigrwydd a newid wrth chwilio am ffyrdd gwahanol a newydd o wneud pethau i barhau i arwain y ffordd. Byddwn yn gwella’r hyn a wnawn yn barhaus, a sut rydym yn gwneud ef. Byddwn yn cryfhau ein sefyllfa fel prif ddarparwr tai yng Nghymru, tra’n cefnogi ein cwsmeriaid a’n cymunedau i ffynnu.

Dibynadwy 

Byddwn yn teilwra ein gwasanaethau i ymateb i anghenion ein cwsmeriaid a fydd wrth wraidd popeth a wnawn. Byddwn yn ddibynadwy ac yn ymatebol, gan barchu a gofalu am ein cwsmeriaid. Byddwn yn darparu gwerth am arian yn barhaus o’n gwasanaethau.

Egwyddorion Adra

Mae pedwar egwyddor allweddol i’n gwaith:

  • gweithio mewn partneriaeth
  • sicrhau gwerth am arian
  • hybu’r iaith
  • grymuso diwylliant y gweithle.

Themâu allweddol y Cynllun Corfforaethol

Darllen Mwy