Picture of the BBC Bitesize panel in front of an audience of school children

Taith ysgolion BBC Bitesize

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Sarah Roberts a Sophie Lewis o Adra, gymryd rhan mewn trafodaethau panel a oedd yn rhan o Daith Ysgolion BBC Bitesize. 

Themâu’r daith y tymor hwn oedd gyrfaoedd, a oedd yn ymweld â dros 40 o ysgolion ar hyd a lled Cymru. 

Sarah Roberts yn Ysgol y Creuddyn

 

Ymunodd Sarah Roberts, Swyddog Adnoddau Dynol a Datblygiad Cyfundrefnol Adra, ar banel yn Ysgol y Creuddyn, i drafod ei gwaith a’i gyrfa ar hyn y mae Adra yn ei wneud, gan gynnwys y cyfleoedd gwaith amrywiol sydd ar gael o fewn y maes tai cymdeithasol. 

Dywedodd Sarah: “Braint oedd cael cymryd rhan ar y panel i drafod gyrfaoedd yn Ysgol y Creuddyn, mae hi’n hynod o bwysig ein bod yn cael y trafodaethau hyn gyda phobl ifanc a’u hysbrydoli. 

“Mae yna gymaint o gyfleoedd amrywiol ar gael yn y maes tai, o swyddi adeiladu i swyddi corfforaethol, a llawer mwy!” 

Llun o panel BBC Bitesize yn Ysgol Glan Clwyd
Sophie Lewis yn Ysgol Glan Clwyd

 

Sophie Lewis, Swyddog Tai Cymunedol Gogledd Adra ymunodd ar daith yn Ysgol Glan Clwyd. Dywedodd Sophie: “Pam oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn ddim eisiau mynd i’r brifysgol, a dwi’n credu fod hi’n bwysig fod disgyblion yn sylweddoli nag oes rhaid mynd i’r brifysgol er mwyn cael gyrfa lwyddiannus. 

“Mi wnes i gymryd rhan mewn cynllun Hyfforddai Tai gyda Chartrefi Cymunedol Gwynedd ar y pryd, a pum mlynedd yn ddiweddarach rwyf dal wrth fy modd gyda fy swydd ag yn mwynhau gweithio i Adra.” 

Mae Adra, yn cynnig amrywiaeth o gyfleodd drwy Academi Adra, sydd yn cynnig cyrsiau a lleoliadau gwaith taladwy mewn meysydd amrywiol, o adeiladwaith i wasanaeth cwsmer. Ceir rhagor o wybodaeth am Academi Adra yma: Academi Adra – Adra