Llun Heather a Sion yn derbyn gwobr TPAS

Academi Adra yn ennill gwobr fawreddog

Mae Cymdeithas tai Adra yn dathlu ar ôl i’w menter sgiliau a chyflogaeth ennill gwobr categori Rhaglen Cymorth / Cyngor i breswylwyr yng ngwobrau TPAS Cymru yng Nghaerdydd. 

Mae Gwobrau Arfer Da Cenedlaethol TPAS Cymru 2023 wedi’u sefydlu i rannu, cydnabod a dathlu’r gwaith gwych a wneir gan sefydliadau tai a thenantiaid mewn cymunedau.  

Wedi’i lansio ym mis Chwefror 2021, mae Academi Adra yn dod â’r ystod o gyfleoedd y gellir eu cynnig trwy Adra a’i phartneriaid ynghyd i helpu tenantiaid, a’r rhai sy’n byw mewn cymunedau, i ddatblygu eu sgiliau a dod o hyd i gyflogaeth. Gan weithio gyda phartneriaid, mae Academi Adra yn cynnig profiad gwaith, lleoliadau gwaith, prentisiaethau, hyfforddiaethau, gwirfoddoli a llawer mwy. 

 

Gweithio mewn partneriaeth

Mae wedi gweithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth â mwy nag 20 o sefydliadau a chontractwyr allanol hyd yn hyn. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys Adra, Procure Plus, Gwaith Gwynedd, Canolfan Byd Gwaith, Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru, Richmond Bright, Cyngor ar Bopeth, Hyfforddiant Gogledd Cymru, Grŵp Llandrillo Menai, GISDA, DU Construction Ltd, WF Clayton & Co Ltd, Wynne Construction, NWRC, Kickstart, Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM, Gyrfa Cymru, Môn CF, GH James Cyf a Williams Homes (Bala). Mae nifer o gyrsiau wedi’u cynnal, gan gynnwys 6 chwrs ‘Llwybr Adeiladu’, a chwrs gwasanaeth cwsmeriaid gyda Fforwm Canolfannau Cyswllt Cymru a Llywodraeth Cymru. 

Hyd yma: 

  • Mae 98 o unigolion wedi cael eu cefnogi i gael hyfforddiant a/neu brofiadau gwaith
  • Mae 77 wedi cael mynediad i hyfforddiant
  • Cefnogir 30 gyda phrentisiaethau
  • Mae 12 wedi cael cymorth i gael swyddi gydag Adra neu ei gontractwyr
  • Mae 8 wedi cael profiad gwaith cyflogedig
  • Mae 3 unigolyn, dau ohonynt yn denantiaid Adra, wedi cael cynnig swyddi llawn amser yn nhîm Gwasanaethau Cwsmeriaid Adra yn dilyn hyfforddiant drwy’r Academi.

Mae Academi Adra yn ymwneud â rhoi cyfle i bawb, a chwalu rhwystrau i sicrhau bod pawb yn gallu llwyddo. Cynhaliwyd ymgyrch yn ddiweddar i annog mwy o fenywod ifanc i ymuno â’r diwydiant adeiladu a thai. Cafodd dros 65 o ferched Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes flas ar weithio yn y maes adeiladu fel rhan o ddigwyddiad o’r enw ‘Nid yn Unig i Fechgyn’. Arweiniodd Adra’r digwyddiad hwn ynghyd â Chwarae Teg, elusen sy’n ysbrydoli, arwain a gweithredu cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. 

Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra: “Rydym yn falch iawn bod Academi Adra wedi ennill gwobr mor fawreddog yng Ngwobrau TPAS eleni, a bod yr holl waith caled wedi’i gydnabod yn genedlaethol. Rydym wedi gwneud ymrwymiad i gefnogi ein tenantiaid a’n cymunedau. 

“Mae Academi Adra yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, rydym wedi helpu i fagu hyder, rhoi hyfforddiant a phrofiad yn ogystal ag agor drysau. Rydym ni’n falch iawn o’r cynnydd maen nhw wedi’i wneud a’r gwahaniaeth maen nhw nawr yn ei wneud i denantiaid eraill.” 

Os oes gennych chi ddiddordeb yn cymryd rhan yn Academi Adra, cysylltwch â cymunedol@adra.co.uk.