Artist impression of semi detached homes with blue door

Adra yn croesawu caniatâd cynllunio i ddatblygiad tai yn Ninbych

Mae cymdeithas dai Adra wedi croesawu penderfyniad Cyngor Sir Ddinbych i ganiatáu cais cynllunio diwygiedig ar gyfer 110 o dai ar safle Gwaenynog yn Ninbych – gyda 80 (73%)  o’r tai hynny yn dai fforddiadwy.

Mi gafodd y cynllun ar gyfer 110 o dai  ar dir gyferbyn a safle Ysgol Pendref ei gymeradwyo yn Nhachwedd 2022 ac yr wythnos hon, rhoddwyd caniatâd pellach ar gyfer cynllun gosodiad diwygiedig, cynlluniau rheoli’r dirwedd, mân newidiadau i rai mathau o dai a gwaith ecolegol ar y safle.

Dywedodd Daniel Parry, Cyfarwyddwr Datblygu Adra: “Mae hwn yn newyddion gwych i ran hon o Sir Ddinbych, gan fod galw cynyddol am fwy o dai fforddiadwy yn yr ardal hon ac ar draws rhannau eraill o’r Gogledd,  yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych a’r datblygwyr Castle Green er mwyn cychwyn ar y gwaith cyn gynted ag y bo modd a chynnig cartrefi o ansawdd i bobl leol. Bydd y datblygiad yn cynnwys cymysgedd o dai ar gyfer rhent cymdeithasol a rhai i’w rhentu ar y farchnad agored.

“Mae’r datblygiad diweddaraf hwn gan Adra hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad cadarn yn ei Chynllun Corfforaethol i adeiladu 900 o gartrefi newydd erbyn 2025, gan gynyddu nifer ei heiddo i dros 7,500, yn ogystal â buddsoddi £60 miliwn yn ei heiddo presennol”.

 

Nodyn i olygyddion: Am wybodaeth bellach, ffoniwch yr Uned Gyfathrebu ar 0300 123 8084.