Gwasanaeth Tai Cefnogol yn y Gymuned

Rydym yn cynnig gwasanaeth i gwsmeriaid cymwys sy’n debyg i’r gwasanaeth wrth fyw mewn cynlluniau tai gwarchod ond drwy aros yn eu cartrefi eu hunain.

Bwriad y gwasanaeth yw i helpu cwsmeriaid i fod yn annibynnol cyn hired ag sy’n bosibl gan wella ansawdd eu:

  • bywyd

  • iechyd

  • lles

Cynnwys y gwasanaeth

Mae’r gwasanaeth tai cefnogol yn y gymuned yn cynnwys:

  • ymweliadau cefnogol i’ch cartref. Ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener i wneud gwiriadau lles rheolaidd. Gall y Swyddog Tai Cefnogol roi cyngor a help ar nifer o bethau sy’n ymwneud â’r cartref
  • cyswllt a chyfeirio at asiantaethau eraill fel gwasanaeth siopa neu lanhau
  • cynllun Cefnogi Personol yn seiliedig ar anghenion sydd wedi eu hasesu
  • opsiwn i osod system larwm argyfwng (lifeline). Rhaid cael llinell ffôn tŷ iddo weithio
  • gwahoddiadau i wahanol weithgareddau yn eich Cynllun Tai Gwarchod agosaf neu sefydliadau cymunedol yn eich ardal fel bore coffi, clwb cinio, bingo, clwb celf, ymarfer corff o’r gadair a llawer mwy

Pwy sy’n gymwys i gael y gefnogaeth?

Rhaid i chi fod yn gwsmer i ni er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth yma. Bydd gofyn i chi gwrdd ag un neu fwy o’r meini prawf:

  • rydych angen cefnogaeth
  • rydych dros 55 mlwydd oed
  • rydych yn anabl

Gwneud cais am y gwasanaeth

Os oes gennych ddiddordeb yn y Gwasanaeth Tai Cefnogol yn y Gymuned neu os ydych eisiau sgwrs anffurfiol gydag un o’n Swyddogion Tai Cefnogol:

Cysylltwch â ni

Oes rhaid i mi dalu am y gwasanaeth?

Mae yna dâl wythnosol am Gwasanaeth Tai Cefnogol yn y Gymuned a Gwasanaeth Larwm Argyfwng ac bydd rhain yn cael ei godi ar wahân i’ch rhent.

Bydd gofyn i chi dalu tâl gwasanaeth am y gwasanaeth yma. Mae’r gost yn cynnwys:

  • Gwasanaeth Larwm Argyfwng: £2.58 yr wythnos
  • Gwasanaeth Swyddog Tai Cefnogol: £11.39 yr wythnos

Cewch wybod am unrhyw cynnydd yn y gost fis o flaen llaw.

Os ydych yn cael budd-dal tai neu gredyd cynhwysol (elfen budd-dal tai), bydd y Gwasanaeth Cefnogi Pobl eich Awdurdod Lleo lyn talu am y gwasanaeth drwy grant cefnogi pobl.