Neuadd Goffa

Cronfa Fuddsoddi Cymunedol – Mynydd Llandygai

Yn ddiweddar roedd Neuadd Goffa Mynydd Llandygai yn llwyddiannus wrth sicrhau grant drwy Cronfa Fuddsoddi Cymunedol Adra ar gyfer prynu system CCTV tu allan i’r Neuadd Goffa.

Mae Neuadd Goffa Mynydd Llandygai yn adnodd gwerthfawr i’r gymuned, mae nifer o digwyddiadau Cymunedol e.e cymdeithas Hanes, dosbarthiadau Zumba, grwpiau rhiant a’i phlentyn a llawer mwy.

Dyma oedd gan Karen sydd yn aelod o’r pwyllgor i ddweud am y grant mae’r neuadd wedi dderbyn.

“Diolch yn fawr iawn i chi am y grant tuag at ein prosiect. Fel cymuned fechan mae’n anodd gwybod lle i ddechrau dod o hyd i gyllid tuag at fenter gymunedol. Fe benderfynom ofyn am arian tuag at system teledu cylch cyfyng gan bod fandaliaid yn targedu ein Neuadd bentref bach yn aml. Ar ôl derbyn y grant, a gosod y system, er ei bod dal i fod yn ddyddiau cynnar, nid ydym wedi cael unrhyw broblemau ac ymddengus bod y camerâu yn ataliwr rhagorol. Gan y gellir cael mynediad i’r system trwy ffonau symudol, gallwn gael golwg ar yr adeilad unrhyw amser o’r dydd gan wybod bod ein Neuadd a’i defnyddwyr yn ddiogel a bod gennym dystiolaeth i’r Heddlu pe byddai angen, os bydd unrhyw digwyddiad”

 

Dyddiad Cau nesaf

Y dyddiad cau ar gyfer y rownd nesaf yw Hydref 15, rydym yn annog unrhyw grwp sydd angen nawdd ar gyfer prosiect Cymunedol i gyflwyno cais. Os oes gennych chi syniad am brosiect ac yn dymuno derbyn fwy o wybodaeth am y Gronfa, mae croeso i chi gysylltu gyda’r Tm Cyswllt Cymunedol drwy anfon e-bost at cymunedol@adra.co.uk neu drwy ffonio 0300 123 8084.