Credyd Cynhwysol

Mae budd-dal yn newid.

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal newydd sy’n eich helpu efo costau byw.

 

Pwy sydd yn gallu cael Credyd Cynhwysol

Gall helpu pobl oed gwaith sydd ar gyflog isel neu sydd heb waith.

Os ydych chi’n cael un o’r budd-daliadau yma, byddwch yn cael gwybod gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) pryd i wneud cais am Gredyd Cynhwysol:

  • Credyd Treth Plant
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Credyd Treth Gwaith

 

Sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio

Mae Credyd Cynhwysol yn un taliad misol sy’n cael ei dalu i’ch cyfrif banc ac mae’n cynnwys eich rhent.

Eich cyfrifoldeb chi fydd talu rhent i ni.

 

Help i dderbyn Credyd Cynhwysol

Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol, ffoniwch aelod o’r Tîm Rhent.

Cymorth Ariannol

Os ydych chi mewn trafferthion ariannol neu’n cael trafferth rheoli’ch arian, cysylltwch ag aelod o’r Tîm Rhent ar 0300 123 8084.

Byddwn yn eich cyfeirio at asiantaethau allanol i gael cyngor arbenigol os oes angen.

Efallai mai’r cam cyntaf fydd eich dysgu i reoli eich arian yn well, gall gwefan ‘Money Advice Service‘ egluro mwy am hyn i chi.

 

Os ydych chi eisiau help efo lleihau eich biliau, cysylltwch a’n Wardeiniaid Ynni.