Gwneud cais am addasiadau

Gallwch wneud cais am addasiadau os oes gennych chi neu unrhyw un sydd yn byw yn eich cartref anableddau neu broblemau iechyd tymor hir sy’n achosi problemau:

  • wrth fynd allan o’ch cartref
  • wrth symud o amgylch eich cartref
  • wrth geisio gwneud tasgau dydd i ddydd yn ddiogel yn eich cartref

Os felly, gallwn eich helpu.

 

Beth yw addasiadau?

Rhywbeth sydd yn cael ei wneud i’ch cartref i’ch helpu chi i symud o amgylch eich cartref. Mae tri prif fath:

  • addasiadau bach
  • addasiadau canolig
  • addasiadau mawr

Addasiadau bach

  • canllaw llaw
  • canllaw ar y grisiau/ wal
  • blwch goriad diogel – blwch bychan ar wal wrth ymyl eich drws i gadw eich goriad
  • hanner step
  • golau ychwanegol

Cysylltwch â ni i wneud cais am addasiadau bach yn eich cartref.

Addasiadau canolig

Gall addasiadau sylweddol gynnwys:

  • lifft grisiau
  • cawod ble gallwch gerdded i mewn iddo
  • ystafell wlyb yn hytrach na ystafell ymolchi
  • ramp
  • lledu drysau

Bydd Therapydd Galwadigaethol (ThG) yn gwneud asesiad i weld pa fath o addasiadau rydych eu hangen. Gall ThG hefyd eich helpu gyda:

  • technegau
  • offer
  • gwasanaethau

Mae cost cynnal a chadw gyda rhai  offer addasiadau.

Bydd tâl ychwanegol ar gyfer hyn.

Addasiadau mawr

  • newidiadau i strwythur eich cartref i wneud mwy o le i chi symud o gwmpas
  • gosod lifftiau o un llawr i’r llall
  • symud gegin neu ystafell ymolchi
  • adeiladu estyniad i gael ystafell wely lawr grisiau a/ neu ystafell gawod

Mae cost cynnal a chadw gyda rhai  offer addasiadau.

Bydd tâl ychwanegol ar gyfer hyn.

Trefnu asesiad ar gyfer addasiadau canolig neu fawr

Gallwch wneud cais am asesiad gan Therapydd Galwedigaethol trwy gysylltu â adran Gwasanaethau Cymdeithasol eich Cyngor lleol:

Rhaid i Therapydd Galwedigaethol (OTh) neu Aseswr profiadol sydd yn gallu gwneud asesiad i weld pa fath o addasiadau rydych angen.

Bydd y Therapydd Galwedigaethol yn dod draw i asesu eich anghenion.

Os ydych angen addasiadau canolig neu fawr byddent yn gwneud cais i’r Panel Addasiadau.

Bydd ein Panel Addasiadau yn trafod sut allwn ddiwallu eich anghenion.

Byddwch yn derbyn llythyr os fydd y Panel wedi cadarnhau eich cais.

Camau nesaf

  • asesu’r gwaith sydd angen ei wneud
  • brynu’r offer
  • drefnu dyddiad i ddod draw i wneud y gwaith

Tâl Gwasanaeth Addasiadau

Tâl gwasanaeth yw tâl rydym ni yn ei godi i dalu costau cynnal a chadw rhai gwasanaethau mae ein cwsmeriaid yn ei dderbyn.

 

Oes rhaid i mi dalu Tâl Gwasanaeth am bob offer addasu?

Na.
Bydd ond disgwyl i chi dalu am wasanaeth os oes gennych addasiad sy’n gofyn am gael ei wasanaethu a’i gynnal a’i gadw yn flynyddol, fel:

  • lifft grisiau
  • lifft drwy’r llawr
  • trac nenfwd ar gyfer codi

 

A fydd y swm yn sefydlog?

Na.
Gall y swm y byddwch yn ei dalu drwy tâl gwasanaeth gynyddu neu leihau yn unol â chost o ddarparu’r gwasanaeth .

Byddwn yn rhoi un mis o rybudd i chi cyn newid y tâl gwasanaeth. Mae hyn fel arfer yn digwydd mis Mawrth.

 

Pryd fydd disgwyl i mi dalu?

Bydd gwarant ar y rhan fwyaf o offer Newydd er enghraifft am 12 mis. Ni fydd rhaid i chi dalu’r tâl gwasanaeth yn ystod y cyfnod warrant.

Os ydych yn gwsmer newydd, yn symud i eiddo sydd wedi ei addasu yn barod, bydd disgwyl i chi wneud y taliad cyntaf yr un pryd a’ch taliad rhent cyntaf.

Bydd angen i bob cwsmer lle mae disgwyl iddynt dalu tâl gwasanaeth am eu haddasiad gwblhau ac arwyddo ‘Ffurflen Tâl Gwasanaeth Addasiadau’. Bydd yn cael ei yrru ynghlwm a’r llythyr penderfyniad.Bydd y ffurflen yn rhestru’r addasiad sydd wedi ei osod yn yr eiddo, y swm wythnosol sy’n daladwy ar gyfer pob eitem a’r cyfanswm blynyddol.

 

Sut gallaf dalu y Tâl Gwasanaeth?

Gallwch dalu’r tâl gwasanaeth yn fisol neu dros 52 taliad wythnosol cyfartal. Y ffordd fwyaf hwylus o dalu yw debyd uniongyrchol. I drafod y gwahanol ffyrdd o dalu, peidiwch ac oedi cysylltwch â ni.