Grantiau i brosiectau cymunedol

Rydym yn cynnig grantiau o hyd at £1,000 i grwpiau cymunedol a gwirfoddol, er mwyn gwella eich cymunedau, a gwella safon byw ein cwsmeriaid. 

Oes gennych chi syniad a fyddai’n gwella eich cymuned chi?  

  • Pwy sy’n gallu gwneud cais?

    Rhaid cyrraedd y meini prawf yma: 

    • bod yn sefydlid neu grŵp gwirfoddol neu gymunedol, o gogledd Cymru, mewn ardal sydd efo stad o dai Adra
    • prosiectau sydd er budd ein cwsmeriaid
    • ddim yn sefydliad sy’n rhannu elw
    • sefydliad sydd efo fframwaith cyfreithiol a chyfansoddiadol. Dylai’r cyfansoddiad neu’r rhestr o reolau gynnwys ‘cymal diddymu’ sy’n sicrhau fod unrhyw asedau a brynir gyda grant o’r gronfa yn cael eu cadw er budd y gymuned, hyd yn oed daw’r grŵp i ben
    • strwythur rheoli clir
    • rheolaeth ariannol eglur, cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu (gyda datganiadau am gyfnod o 3 mis) yn enw’r sefydliad, gyda’r angen am lofnod o leiaf dau aelod o’r grŵp i wneud unrhyw daliad neu siec
    • cyfrifon blynyddol (ar gyfer sefydliadau sy’n bodoli ers dros 12 mis) neu ragolwg ariannol ar gyfer sefydliadau newydd (llai na 12 mis oed) sy’n cael eu cyflwyno, eu harchwilio / cymeradwyo’n annibynnol
    •  sefydliad sy’n cael ei redeg yn seiliedig ar egwyddorion sy’n cydymffurfio â deddf gwlad ar gyflogaeth, iechyd a diogelwch, cydraddoldeb gweithwyr a gwirfoddolwyr
    • deallusrwydd ac ymrwymiad i gydraddoldeb mewn materion yn ymwneud â mynediad, iaith, diwylliant, rhyw ac ethnigrwydd
    • nodau ac amcanion sy’n gydnaws â’r gweithgareddau a gaiff eu hariannu trwy’r grant
      gweithgareddau’r ymgeisydd yn cyflawni un neu fwy o’r canlynol: creu swyddi, annog pobl yn ôl i’r gweithle, trefnu ac ysbrydoli cymunedau
    • fod grwpiau eraill o fewn yr ardal yn cefnogi’r gweithgaredd / cynllun
    • fod y gweithgaredd / cynllun yn cyfrannu tuag at adfywiad economaidd hirdymor
    • fod egwyddorion gwerth am arian wrth wraidd datblygu/ gweithredu a rhedeg y cynllun
    • gweithredu yn unol ag egwyddorion sy’n gwarchod plant ac oedolion bregus, yn unol â deddf gwlad.
  • Sut i wneud cais?

    Rhaid cwblhau ffurflen gais. Cysylltwch â ni am gopi.

    Byddwn yn ystyried ceisiadau sydd:

    • er budd ein cwsmeriaid
    • yn cael eu cyflwyno gan elusennau hen a newydd, grwpiau di-elw, mentrau lleol a sefydliadau cymunedol.
  • Amodau
    • bydd cefnogaeth ariannol yn cael ei roi ar gyfer cynlluniau penodol yn unig
    • ni ellir gwneud cais am fwy nag un grant yn flynyddol
    • dim ond un waith y cyllidir un prosiect cyflawn. Dylai grwpiau sydd eisoes wedi derbyn cefnogaeth cyllid ariannol sicrhau eu bod yn cyflwyno tystiolaeth glir rhwng cwblhau un cynllun a gwneud cais am ragor o nawdd er mwyn dechrau cynllun newydd
    • ni roddir nawdd ar gyfer cynnal a chadw cyffredinol a rheolaeth adeiladau, nac ar gyfer cynnal gweithgareddau neu wasanaethau parhaol
    • wrth sgorio y cais bydd pwyntiau yn cael eu diddymu o gais grŵp sydd eisoes wedi derbyn grant gennym ar gyfer prosiectau blaenorol.
  • Dogfennau i’w cyflwyno efo’r cais

    Rhaid cyflwyno’r dogfennau canlynol efo eich cais:

    • datganiad banc gwreiddiol (sy’n llai na 3 mis oed)
    • dogfennau’n cadarnhau perchnogaeth eiddo / tir y bwriedir ei ddatblygu (os yn berthnasol)
    • copi o brydles (os yn berthnasol)
    • caniatâd y perchennog i wneud y gwaith ar yr eiddo (os yn berthnasol)
    • copi o ganiatâd cynllunio (os yn berthnasol)
    •  tystiolaeth nad oes angen caniatâd cynllunio (os yn berthnasol)
    • cadarnhad fod gweithwyr hunangyflogedig wedi derbyn cyngor am eu cyfrifoldebau i ddelio gyda’u cyfrifon treth incwm a threth yswiriant ar ffioedd
    • dau bris ysgrifenedig am unrhyw wariant cyfalaf dros £250 a 3 pris ar gyfer unrhyw wariant cyfalaf dros £1,000
    • copi wedi ei arwyddo o gyfansoddiad eich sefydliad
    • cyfrifon cyfredol (datganiadau incwm ar gyfer sefydliadau llai n 12 mis oed).
  • Costau mae’r gronfa yn ariannu
    • bydd y gronfa yn cefnogi ceisiadau am brosiectau hir dymor, ond dim ond yn cyfrannu tuag at gostau cyfalaf a refeniw cynllun dros gyfnod o hyd at 12 mis yn unig
    • gallwn gyfrannu hyd at 100% o gyfanswm costau cynllun.
  • Costau nad yw’r gronfa yn eu hariannu
    • costau teithio a gwario ar gyfer teithio dramor
    •  gweithgareddau’n ymwneud â lles anifeiliaid
    • apeliadau cyffredinol
    • dyledion neu gostau oedd yn ddyledus neu wedi eu gaddo cyn i’r cais gael ei gymeradwyo
    • ffioedd ysgol
    • offer meddygol neu ymchwiliol
    • ffioedd banciau neu archwilwyr
    • di- brisiad neu amorteiddio
    • treth ar Werth (TAW) y gellir ei hawlio nôl
    • ffioedd ar gyfer codwyr arian proffesiynol allanol neu annibynnol
    • cynlluniau pensiwn preifat.
  • Enghreifftiau o brosiectau allai fod yn llwyddiannus
    • cynllun sy’n cynorthwyo pobl i gael swyddi llawn neu ran amser, swyddi sy’n recriwtio, cefnogi neu’n datblygu gwirfoddolwyr
    • cynllun hyfforddi sy’n dysgu sgiliau newydd neu yn rhoi cymhwyster i bobl, e.e. sgiliau cyfrifiadurol/technoleg ddigidol, ymdrin ag arian, byw yn annibynnol
    • cynllun sydd yn mynd ati i wella iechyd a lles, yn enwedig ar gyfer grwpiau bregus e.e. gweithdai bwyta’n iach, cyrsiau hunan hyder, gweithgaredd/menter ymarfer corff cymunedol newydd
    • sefydlu menter gymdeithasol newydd
    • gwelliannau i adnoddau neu gyfleusterau cymunedol
    • cynlluniau amgylcheddol lleol
    • cynlluniau i atal neu ostwng ymddygiad gwrth gymdeithasol neu droseddu
      Sefydlu gwasanaeth neu weithgaredd newydd y mae ei fawr angen o fewn y gymuned
    • sefydlu cynllun trafnidiaeth bychan, i gynorthwyo pobl sy’n ei chael yn anodd i gyrraedd cyfleoedd oherwydd eu lleoliad
    • sefydlu cyfleusterau/cyfleoedd newydd mewn clybiau ar ôl ysgol, cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau, grwpiau chwarae a methrinfeydd
    • gweithgareddau sy’n hybu gwirfoddoli a denu mwy o bobl newydd i fod yn wirfoddolwyr, e.e. gweithgareddau addysgol, clybiau cinio, sefydlu caffi /siop gymunedol, cynnig adnoddau ar gyfer ymwelwyr, sefydlu menter gymunedol
    • trefnu digwyddiadau – sef digwyddiadau newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli na dderbyniodd nawdd gennym o’r blaen, er mwyn gwella cynaladwyedd ariannol y digwyddiad
    • datblygu adnoddau marchnata a gweithgareddau cymunedol e.e. cynhyrchu defnyddiau marchnata/ gwybodaeth/ byrddau gwybodaeth neu daflenni hanesyddol, a ddatblygwyd gan wirfoddolwyr
    • paratoi Cynllun Busnes; talu ffioedd proffesiynol, comisiynu ymgynghorydd busnes ar gyfer menter / gweithgaredd newydd fydd yn gwella cynaladwyedd ariannol, neu ar gyfer grŵp sy’n wynebu trafferthion ariannol
    • astudiaeth ddichonoldeb / gwerthusiad opsiynau; talu am ffioedd ymchwil i ddichonoldeb ac ymarferoldeb menter / gweithgaredd newydd/ talu costau am gynllunio gan Bensaer.
    • asesiad Effeithlonrwydd Ynni; talu ffioedd proffesiynol asesu effeithlonrwydd y defnydd o egni mewn adeilad cymunedol a pharatoi adroddiad yn nodi’r camau y dylid eu cymryd i wella perfformiad
    • cynllun sydd yn hyrwyddo/annog y defnydd o dechnoleg digidol ymysg ein tenantiaid a phreswylwyr.

Am fwy o wybodaeth neu help efo eich cais cysylltwch â’r Tîm Cyswllt Cymunedol: cymunedol@adra.co.uk