Dod a’ch tenantiaeth i ben

I ddod a’ch tenantiaeth i ben, bydd angen i chi roi o leiaf pedair wythnos lawn o rybudd ysgrifenedig i ni gan gynnwys eich holl manylion cyswllt.

Dyma templed PDF y gallwch ei ddefnyddio.

Dyma templed Word y gallwch ei ddefnyddio.

Cyn i chi symud

Dyma restr o ychydig o bethau sydd angen i chi wneud cyn i chi symud allan:

  • gadael i’n staff ddod i’ch cartref ar amser rhesymol i gynnal archwiliad
  • talu rhent/taliadau
  • gwneud yn siŵr bod cais Budd-dal Tai a gordaliadau wedi eu datrys
  • clirio’r holl ddodrefn, ysbwriel, carpedi a phethau personol o’r cartref gan gynnwys yr atig
  • clirio ysbwriel ac eitemau o’r ardd
  • glanhau a brwsio’r eiddo

 

Rhestr Wirio

  • Cymryd y darlleniadau olaf ar gyfer nwy, trydan a dŵr a gadael i’ch cyflenwyr wybod
  • Datgysylltu’r ffôn, cysylltu efo’r cwmni ffôn i gael y cyfrif terfynol yn eich cyfeiriad presennol a threfnu gosod ffôn yn eich cyfeiriad newydd
  • Dweud wrth eich darparwr band llydan a Sky eich bod yn symud
  • Dweud wrth y cwmni Trwydded Teledu eich bod yn symud
  • Cysylltu efo’r Post Brenhinol i drefnu bod eich post yn cyrraedd eich cyfeiriad newydd