Ymgynghori

Mae eich barn chi fel cwsmer yn werthfawr i ni.

Dyna pam rydyn ni’n gofyn eich barn yn rheolaidd am newidiadau sy’n mynd i ddigwydd.

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth yma i wella ein gwasanaethau a’n cymunedau.

 

  • Ymgynghoriadau Byw

    Hunan Werthusiad Adra 2022-23 – Ymgynghori gyda Chwsmeriaid

    Fel Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, rydym yn cael ein rheoleiddio gan  Lywodraeth Cymru. 

    Maen nhw wedi cyhoeddi canllawiau sy’n nodi’r safonau y disgwylir i bob Cymdeithas Dai eu darparu, sy’n ymwneud â gwasanaethau tai, llywodraethu a rheolaeth ariannol. Mae nhw’n disgwyl inni gyflawni mewn 9 maes allweddol er mwyn bod yn effeithiol fel landlord cymdeithasol. 

    Bob blwyddyn, fel rhan o’r broses Rheoleiddio, rydym yn cynnal hunanwerthusiad o’n gweithgareddau i ddangos sut rydym yn bodloni’r canllawiau perthnasol. Yna caiff yr hunanwerthusiad hwn ei rannu â  Llywodraeth Cymru, sy’n herio’r cynnwys ac yn edrych yn ôl dros y flwyddyn ar ein cyflawniadau. Mae rhan olaf y broses hon yn gweld cyhoeddi adroddiad Dyfarniad Rheoleiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer Adra. 

    Mae Hunanwerthuso yn ymwneud â chymryd golwg onest ar berfformiad y sefydliad yn ystod y flwyddyn. Mae’n seiliedig ar y ffordd rydym wedi ymgysylltu â thenantiaid, gwerthuso perfformiad presennol y sefydliad, gan gynnwys yr hyn sydd wedi mynd yn dda, a pha feysydd sydd angen eu gwella. 

    Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno crynodeb o Hunanwerthusiad Adra ar gyfer 2022-23. Rydym yn awyddus i gael eich barn ar y ffordd rydym wedi perfformio a gofynnwn i chi ddarllen yr adroddiad a chynnig unrhyw sylwadau ychwanegol i ni eu hystyried. 

    Adroddiad Hunan Werthusiad

    Cwblhewch yr holiadur ar y ddolen isod erbyn dydd Llun,

    9 Hydref 2023 fan hwyraf. 

    Holiadur Hunan Werthusiad

  • Ymgynghoriadau wedi cau

    Hunanwerthusiad Adra 2022-23  – Ymgynghori gyda Chwsmeriaid

    Yn ystod yr Haf cafodd ymarferiad Hunanwerthuso ei gynnal. Mae Hunanwerthuso yn golygu edrych yn onest ar sut mae’r sefydliad wedi perfformio yn ystod y flwyddyn.

    Darllen y canlyniadau

    Ymgynghoriad Lleithder, Llwydni a Chyddwysedd

    Mae ein Polisi Lleithder a Chyddwysiad yn cael ei hystyried yn ddogfen sy’n torri tir newydd yn y sector tai, a rydym ni yn un o’r landlordiaid cymdeithasol cyntaf i ddatblygu a mabwysiadu polisi o’r fath.

    Y polisi hwn oedd y cyntaf yr ymgynghorwyd arno ers lansio ein Strategaeth Gyfranogi newydd – ‘Eich Llais’ ym mis Mawrth 2023.

    Fel rhan o’r broses ymgynghori, fe wnaethom adnabod 80 cartref a oedd wedi nodi problemau gyda lleithder a chyddwysiad. Derbyniodd pob un o’r 80 cartref gopïau o’r dogfennau perthnasol a gofynnwyd iddynt am eu barn a’u sylwadau ar y polisi newydd arfaethedig. Ymwelodd ein swyddogion hefyd â 25% o’r eiddo yma yn bersonol i gasglu barn ac adborth y rhai yr effeithiwyd. Fe wnaethom hefyd gynnal ymgynghoriad ehangach trwy ein gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol.

    Derbyniwyd adborth ardderchog ac adeiladol, a  Bwrdd Adra, hyn oll wedi ein helpu i lunio’r ddogfen derfynol. Cymeradwyodd Bwrdd Adra’r polisi yn eu cyfarfod ym mis Hydref 2023.

    Ymgynghoriad Cyfathrebu

    Mae clywed barn a phrofiadau’r bobl sydd yn byw yn ein cartrefi ac yn derbyn ein gwasanaethau yn hynod bwysig, ac yn ein helpu i wella’r gwasanaethau byddwn yn darparu i chi. I sicrhau ein bod yn clywed barn gymaint o’n cwsmeriaid a phosib, mae’n bwysig ein bod yn gwybod sut hoffech chi gymryd rhan efo ni.

    Darllen canlyniadau’r ymgynghoriad cyfathrebu

     

    Ymgynghoriad Rhent y farchnad agored

    Rydym wedi adolygu polisi ein cartrefi Rhent y Farchnad agored rhwng 09 Medi 2022 a 23 Medi 2022.

    Rydym yn dadansoddi’r canlyniadau ar hyn o bryd.

     

    Ymgynghoriad Safon Ansawdd Tai Cymru

    Rydym wedi anfon eich adborth ymlaen fel rhan o’n ymateb i Lywodraeth Cymru,

    Rydym yn aros am adborth gan Llywodraeth Cymru.

     

    Arolwg argyfwng costau byw 

    Diolch am yr adborth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad yma.

    Darllen canlyniadau Arolwg Costau Byw

    Polisi Awyru

    Diolch am yr adborth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad yma.

    Mae’r adborth yma wedi ein helpu i lunio’r polisi terfynol.

    Mae’r Polisi wedi cael ei gymeradwyo gan Fwrdd Adra.