Gwaith trwsio mae’n rhaid chi dalu amdano

Rydym yn gwneud llawer o waith trwsio am ddim. Ond mae gofyn i chi dalu am rai mathau o waith trwsio.

Mae’n rhaid talu am waith sydd wedi ei achosi gan ddifrod neu esgeulustod gennych chi’r cwsmer, ymwelydd, plentyn neu anifail yn eich cartref.

Mae hefyd yn cynnwys:

  • trwsio unrhyw waith rydych chi wedi ei wneud yn eich cartref sydd ddim yn cyd fynd â’n safon ni
  • clirio unrhyw ysbwriel sydd wedi ei adael yn y cartref os ydych wedi symud
  • gwaith trwsio sydd ddim yn gyfrifoldeb arnom ni
  • Beth fydd rhaid i chi dalu amdano

    Bydd rhaid i chi dalu am yr eitemau  yma.

    Mae yna ddisgownt o 25% os byddwch yn talu yn llawn yn syth.

    Mae yna ddisgownt o 20% am greu cynllun talu yn syth a’ch bod yn cadw at bob un taliad.

    Problem sydd angen trwsio Pris Pris efo 25% disgownt Pris efo 20% disgownt
    Mynediad i’ch cartref a newid clo pan fyddwch wedi colli goriad £80 £60 £64
    Newid y cloeon pan fyddwch wedi colli goriad neu fod y goriad wedi malu yn y clo £45.90 £34.43 £36.72
    ‘Board up’ ar ôl digwyddiad lle mae’r heddlu wedi gorfod torri mewn £70 £52.50 £56
    Trydan wedi diffodd ar ôl i’ch offer chi achosi i’r trydan dripio. £45 £33.75 £36
    Gwres a thrydan ddim yn gweithio oherwydd nad oes gennych arian ar eich mesurydd £45 £33.75 £36
    Larwm tân wedi ei effeithio gan rywbeth rydych chi wedi ei wneud £45 £33.75 £36
    Gosod panel gwydr dwbl newydd ar ôl galwad allan o oriau i gau’r ffenestr i fyny £170. £127.50 £136
    Newid drws ffrynt £900 £675 £720
    Newid drws cefn £150 £112.50 £120
    Drws uned gegin neu ddrôr £70 £52.50 £56
    Pecyn droriau cegin £150 £112.50 £120
    Uned wal cegin £100 £75 £80
    Wyneb gweithio cegin £75 £56.25 £60
    Toiled wedi blocio oherwydd camddefnydd e.e. rhoi weips lawr y toiled £45 £33.75 £36
    Toiled £250 £187.50 £200
    Newid panel bath £65 £48.75 £52
    Sinc Ystafell Ymolchi £250.00 £187.50 £200
    Glanhau ysbwriel £400.00 £300.00 £320
    Troi tenant allan £214.14 NA NA

     

  • Sut i dalu

    Mae yna ddwy ffordd o dalu.

    • Talu’r swm yn llawn dros y ffôn
    • Creu debyd uniongyrchol

    Talwch y swm yn llawn dros y ffôn a byddwch yn cael disgownt o 25%.

    Byddwch yn cael disgwont o 20% os yn trefnu cynllun talu gyda ni yn syth ac yn talu pob un o’r rhain ar amser.

    Cysylltwch â ni i dalu.

    Byddwn yn gwneud unrhyw waith mewn argyfwng neu unrhyw beth sy’n risg iechyd a diogelwch cyn gynted ag sy’n bosib.

    Bydd angen creu cynllun talu neu dalu yn llawn cyn y gallwn gychwyn ar unrhyw waith arall.

  • Gwasanaeth allan o oriau

    Mae ein canolfan alwadau ar agor o 08:00 tan 17:30.

    Os byddwch yn ein ffonio ar ôl 17:30 a cyn 08:00, bydd hyn yn rhan o’r gwasanaeth allan o oriau.

    Unrhyw waith sydd ddim yn argyfwng neu yn waith sydd yn gyfrifoldeb chi y cwsmer, mi fydd rhaid talu £90. Enghreifftiau o’r math yma o waith yw colli goriadau neu gwydr ffenestr wedi malu.

    Ni fydd ein gwasanaeth allan o oriau yn gwneud unrhyw waith mawr yn ystod yr oriau yma. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod eich cartref yn saff am y noson a byddwn yn trwsio’r broblem yn ystod y dydd.

  • Symud o'ch cartref

    Ar ôl i chi roi rhybudd eich bod yn gadael eich cartref, byddwn yn trefnu dyddiad i ddod i archwilio eich cartref.

    Ar ôl  yr archwiliad, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw waith sydd angen i chi dalu amdano ac amcan o faint fydd y gost.

    Os byddwch yn symud allan a bod yna bethau sydd angen eu trwsio oherwydd:

    • Damwain
    • Difrod
    • Esgeulustod

     

    Byddwn yn gofyn i chi dalu am y rhain.

    Gallwch dalu’n llawn a chael disgownt o 25% neu greu debyd uniongyrchol.