Gosod Camerau Diogelwch
Rydym yn cydnabod y gallwch deimlo yn fwy diogel wedi gosod camerâu diogelwch y tu allan i’ch cartref.
Rydym hefyd yn cydnabod y gall eich cymydog, o bosib, deimlo fod camerâu diogelwch ar gartref eu cymydog fod yn drosedd ac yn amharu ar eu preifatrwydd.
Beth i’w wneud os ydych eisiau gosod camerâu diogelwch ar eich cartref
Byddwch angen gwneud cais i ni i gael gosod camerâu diogelwch (TCC) ar waliau allannol eich cartref.
Cyn gwneud hyn, meddyliwch beth yw’r broblem rydych yn trio ei datrys trwy osod camerâu diogelwch.
Cysylltwch â’r Heddlu lleol am gyngor ynglŷn ag atal troseddau . Gall gwell cloeon neu olau diogelwch fod yn ddull mwy effeithiol o ddiogelu eich eiddo.
Bydd TCC sy’n cael ei ddefnyddio ar eich eiddo wedi ei esgusodi o Ddeddf Diogelu Data oni bai eich bod yn cael darn o ffilm o bobl tu allan i’ch eiddo.
Mae cygnro am sut i ddefnyddio camerau diogelwch yn gyfrifol i’w gael ar wefan Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) . Mae gwybodaeth beth i’w wneud os ydych yn poeni am ddefnydd rhwyun arall o gamerau diogelwcho fewn eich cymuned ar y wefan hefyd.
Cysylltu â ni i wneud cais i gael Camerau Diogelwch ar eich cartref
Beth sy’n digwydd ar ôl gwneud cais
Ar ôl i chi gysylltu â ni bydd rhaid llenwi ffurflen gais.
Byddwn ni yn gwneud asesiad o’ch cais ac yn rhoi gwybod i chi os fyddwn yn rhoi caniatad neu ddim i chi osodd TCC.
Os fyddwch yn parhau i roi TCC ar eich cartref, wedi i ni wrthod eich cais, gallwn ofyn i chi ei dynnu.
Mae gennym hawl i dynnu caniatad yn ôl ar unrhyw adeg neu hawl i osod amodau os oes problemau yn codi o’u gosod.
-
Gosod camer(âu) ffug
Mae’r term Camera “Ffug” yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio camerâu sy’n cael eu gosod ar gartref ond ddim yn recordio.
Nid ydynt yn recordio unrhyw ddelweddau.
Er nad yw’r camerâu hyn yn ddrud i’w prynu, nid ydynt fawr o werth o ran atal troseddu. Byddai troseddwyr neu’r rhywun sy’n cyflawni ymddygiad gwrth-gymdeithasol yn sylweddoli yn fuan iawn nad camerâu go iawn ydynt ac ni fyddai hyn yn eu rhwystro rhag troseddu.
Os ydych yn bwriadu gosod System TCC, byddwch yn barod i wario mwy i gael system sy’n gweithio’n iawn.