Yswiriant Cynnwys y Cartref

Pam dwi angen Yswiriant Cynnwys y Cartref?

Nid ydym yn diogelu cynnwys eich cartref fel rhan o’r cytundeb tenantiaeth.

Mae’n syniad da i ystyried beth fyddai polisi yswiriant yn ei ddiogelu er mwyn eich helpu chi i benderfynu a ydych angen yswiriant cynnwys y cartref.

Mae yswiriant cynnwys y cartref wedi’i lunio i helpu i ddiogelu eich eiddo.  Pa mor ofalus ydach chi, mae risg bob amser y gallai eich eiddo gael ei dorri, ei ddifrodi neu ei ddwyn, felly gall yswiriant cynnwys y cartref helpu i roi tawelwch meddwl os byddai’r gwaethaf yn digwydd.

Cynllun Yswiriant Cynnwys y Cartref Talu wrth Fynd

Rydym wedi ymuno â thîm Thistle Tenant Risks sy’n darparu polisïau Yswiriant Cynnwys y Cartref arbenigol.

Mae’r cynllun yn gynllun yswiriant arbenigol a ddarperir gan Thistle Tenant Risks ac mae holl denantiaid sy’n byw mewn tai cymdeithasol a fforddiadwy yn gymwys i ymgeisio.

Gall y cynllun gynnig yswiriant ar gyfer cynnwys eich cartref gan gynnwys yswiriant ar gyfer eitemau fel:

  • dodrefn
  • carpedi
  • llenni
  • dillad
  • dillad gwely
  • eitemau trydanol
  • gemwaith
  • lluniau
  • ornaments

Rhesymau dros ddewis Yswiriant Cynnwys y Cartref Talu wrth Fynd

  • dim tâl dros ben (nid ydych yn talu am ran gyntaf o’r hawliad)
  • sicrwydd yswiriant yn achos lladrad, difrod dŵr, tân a llawer mwy o risgiau’r aelwyd
  • sicrwydd yswiriant ar gyfer gwelliannau tenantiaid (hyd at £2000 neu 20% o’r swm sydd wedi’i yswirio,   pa un bynnag yw ‘r mwyaf)
  • sicrwydd yswiriant yn achos dwyn neu ymgais i ddwyn eitemau mewn siediau, adeiladau tu allan a  garejis (hyd at £3,000)
  • sicrwydd yswiriant yn achos difrod i wydr tu allan yr ydych chi’n gyfrifol amdano
  • sicrwydd yswiriant os oes angen newid a gosod cloeon newydd ar ddrysau tu allan neu ffenestri a larymau, yn achos colli neu ddwyn goriadau
  • nid oes angen i chi gael drws neu gloeon ffenestri arbennig (dim ond drws ffrynt y gellir ei gloi)

Ar gyfer pwy y mae’r polisi?

Mae Yswiriant Cynnwys y Cartref Tenant Risks wedi’i lunio ar gyfer anghenion preswylwyr tai cymdeithasol sy’n chwilio am brynu yswiriant cynnwys y cartref.

Mae Thistle wedi cysylltu gyda’r yswiriwr sengl Great Lakes Insurance UK Limited.  Mae’r yswiriant yn amodol ar delerau, amodau, cyfyngiadau ac eithriadau sydd wedi’u cynnwys yng ngeiriad y polisi, y dylech ei darllen yn ofalus.

Os nad ydych yn siŵr os ydi’r polisi yma yn iawn i chi, cysylltwch gyda ni.

Cysylltwch gyda ni

Sut dwi’n cael mwy o wybodaeth?

Os hoffech ymgeisio am yswiriant cynnwys y cartref, gallwch wneud hynny drwy gwblhau’r ffurlfen gais

Cyn cwblhau’r ffurflen gais, plîs darllenwch y ddogfen gwybodaeth i denantiaid a  Dogfen Gwybodaeth Cynnyrch Yswiriant.

Mae’r dogfennau yma yn rhoi gwybodaeth bwysig i chi am eich hawliau a sut yr ydym yn delio â chi a’ch yswiriant a gwybodaeth bwysig am yr hyn y mae’r yswiriant yn ei ddiogelu.

Plîs nodwch fod y polisi sydd ar gael gennym yn cael ei drefnu heb roi cyngor.  Mae hyn yn golygu eich bod yn cael yr wybodaeth sydd ei angen arnoch chi i benderfynu ar sail gwybodaeth pa yswiriant sy’n addas i’ch anghenion.

Beth i’w wneud os oes gennych gŵyn

Y bwriad bob amser yw rhoi’r gwasanaeth gorau posib.

Ond os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am yr yswiriant yma neu’r ffordd y cafodd eich cais ei drin, dylech ddilyn y weithdrefn.

Copi o drefn gwyno Thistle Insurance Services. 

Mae Thistle Tenant Risks yn ddull masnachu ar gyfer Thistle Insurance Services Limited. Mae Thistle Insurance Services Limited wedi cael ei awdurdodi a’r reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol FRN 310419. Wedi ei gofrestru yn Lloegr Rhif 00338645. Swyddfa Gofrestredig: Rossington’s Business Park, West Carr Road, Retford, Nottinghamshire, DN22 7SW. Mae Thistle Insurance Services Ltd yn rhan o PIB Group.

Mae Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd Thistle ar gael ar  lein