Hylendid dŵr yn eich cartref

Dyma wybodaeth bwysig i chi am y pethau y gallwch eu gwneud yn eich cartref i’ch amddiffyn rhag Clefyd y Lleng Filwyr.

Beth yw Clefyd y Lleng Filwyr

Salwch yw clefyd y Lleng Filwyr y medrwch ei gael drwy anadlu diferion o ddŵr sy’n cynnwys bacteria clefyd y lleng filwyr.

Mae’r bacteria yn y rhan fwyaf o systemau dŵr ond mae’n lluosi ac yn
berygl mewn dŵr llonydd gyda thymheredd o rhwng 20°C a 45°C. Mae’n cael ei ladd mewn tymheredd 60°C neu fwy.

O ble mae’n dod

Mae bacteria clefyd y lleng filwyr yn gyffredin iawn mewn systemau dŵr naturiol e.e. afonydd a phyllau. Nid yw pobl yn dal yr afiechyd yn aml iawn o’r ffynonellau yma.

Gall pobl gael y salwch drwy gael eu hamlygu i glefyd y lleng filwyr sy’n tyfu mewn systemau wedi eu hadeiladu yn bwrpasol lle bydd dŵr yn cael ei gadw ar dymheredd sy’n ddigon uchel i annog tyfiant er enghraifft:

  • systemau dŵr poeth ac oer
  • pyllau sba
  • tyrau oeri
  • cyddwysyddion anweddu sy’n cael eu defnyddio mewn sawl lle (domestig, gwaith a hamdden).

Sut mae pobl yn cael Cleddyf y Lleng filwyr

Mae pobl yn cael Clefyd y Lleng Filwyr drwy anadlu diferion bach o ddŵr (aerosols) sydd yn yr aer lle mae yna facteria. Mae rhai amodau yn cynyddu’r risg o glefyd y lleng filwyr:
• Tymheredd dŵr neu rai rhannau o’r system rhwng 20°C – 45°C, mae hyn yn annog tyfiant.
• Diferion dŵr y gellir eu hanadlu yn cael eu creu ac yna diflannu e.e. aerosol yn cael ei greu drwy
gawodydd, allanfeydd dŵr, bathiau sba
• Dŵr yn cael ei storio a/neu ail redeg
• Mae yna waddodion a all annog bacteria dyfu sy’n darparu maeth i’r organeb er enghraifft rhwd, llaid, cen, modd organig a biofilmiau.
• Allanfeydd ddim yn cael eu defnyddio yn aml
• Bod yna ben draw (dead end) i’r system neu beipiau sydd ddim yn cael eu defnyddio er enghraifft dŵrpoeth ar gyfer peiriant dŵr oer yn unig.

 

Beth allaf wneudi leihau’r risg o glefyd y lleng filwyr 


Mae’r risg o glefyd y lleng filwyr yn achosi salwch mewn eiddo domestig bach yn isel iawn. O bosib, y risg fwyaf yw pan fyddwch wedi bod i ffwrdd o’r eiddo am fwy nag wythnos er enghraifft:

  • ar wyliau 
  • tapiau/cawodydd/toiledau ychwanegol syddddim yn cael ei defnyddio’n ddyddiol.

Y peth gorau i’w wneud mewn achosion fel hyn yw:

• Troi’r tapiau dŵr poeth ymlaen (ffynhonnell annhebygol iawn beth bynnag) am o leiaf 60eiliad.
• Flysiwch bennau cawodydd am o leiaf 60 eiliad (i wneud hyn, tynnwch o’r daliwr cyn rhoi’r gawod
ymlaen yna daliwch ef i lawr dros dwll plwg er mwyn lleihau’r risg o anadlu diferion.
• Mae angen datgysylltu a glanhau pennau cawodydd bob 3-6 mis yn enwedig cawodydd sydd ddim yn cael eu defnyddio yn aml.
• Cadw’r dŵr poeth yn eich system boeler ar dymheredd o 60°C o leiaf. Gwyliwch losgiI!
•Fflysiwch y toliet ddwywaith fel bod dŵr ffres yn rhedeg drwy’r system ac yn gwagio’r seston
•Gwnewch yn siwr bod y system dŵr oer yn oer ar ôl rhedeg am 2 funud
•Os oes gennych danc dŵr oer, gwnewch yn siwr bod y caead wedi cau