Symud i gartref newydd

Pob dymuniad da i chi yn eich cartref newydd.

Mae ambell beth sydd yn rhaid i chi ei wneud wrth symud o’ch hen gartref ac i’ch cartref newydd.

Cyn i chi gael eich goriadau

  • Gorffen eich contract presennol, cymerwch olwg ar ein taflen Gorffen eich Contract a Symud Allan.
  • Trefnu i weld y tŷ gyda ni (peidiwch â mynd i’r eiddo heb aelod o’n staff).
  • Cofiwch:
    • Rydym yn darparu lloriau
    • Nid ydym yn darparu dodrefn na chyfarpar
    • Efallai na chaniateir lloriau ‘laminate’ gan eu bod yn achosi sŵn i gymdogion

Cyn i chi symud i mewn

  • Talu unrhyw rent a thaliadau ar eich contract presennol.
  • Talu un wythnos o rent a thaliad gwasanaeth (os yn berthnasol) ymlaen llaw wrth lofnodi eich contract newydd.
  • Sicrhau bod ceisiadau budd-dal tai a gordaliadau wedi’u datrys.
  • Siarad â’n tîm Gosod, Shelter Cymru neu Gyngor ar Bopeth os oes angen cymorth.
  • Os yn berthnasol, trafod  gyda’ch gweithiwr cymdeithasol/cymorth.

Rhestr Wirio ar gyfer Symud

  • Cymryd darlleniadau terfynol ar gyfer nwy, trydan a dŵr yn eich hen gartref a rhoi gwybod i’r cyflenwyr. Gwnewch yr un peth pan fyddwch yn symud i mewn.
  • Datgysylltu’r ffôn a threfnu cyfrif newydd neu drosglwyddo.
  • Cysylltu â’ch darparwyr band eang/teledu.
  • Trefnu ail wiriad nwy gyda ni ar ôl i chi symud i mewn.
  • Trefnu ailgyfeirio post gyda’r Post Brenhinol.
  • Diweddaru eich cyfeiriad gyda’ch meddyg, deintydd, gweithiwr cymdeithasol ac eraill.
  • Rhoi gwybod i’r adran Budd-dal Tai a Threth Gyngor yn eich awdurdod lleol.
  • Trefnu yswiriant cynnwys cartref.
  • Gwiriwch gasgliadau bin a gwasanaethau lleol gyda’ch cyngor.

Taflen wybodaeth Symud i mewn