Adra Goods

Croeso Adra

I gyd-fynd gyda chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y tair blynedd nesaf ac ar ôl chwe mis o waith paratoi ac ymgynghori, mae’n bleser gennym ddatgelu enw a brand cwbl newydd a chyffrous gyda chi, sef Adra.

Bydd Adra yn dechrau ar ei waith ar unwaith ac mae’n ategu Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer y dair blynedd nesaf. Mae’r Cynllun Corfforaethol yn cynnwys yr uchelgais i adeiladu dros 500 o dai newydd fforddiadwy ar gyfer pobl sydd ag angen tai ledled gogledd Cymru.  Y bwriad yw adeiladu eiddo rhent canol y farchnad, a bydd isgwmni newydd, Medra yn canolbwyntio ar adeiladu cartrefi newydd a fydd ar gael i’w gwerthu ar y farchnad agored.

Gan weithio gyda’r asiantaeth dylunio greadigol, View Creative sydd wedi’u lleoli yng ngogledd Cymru, cafodd y brand newydd ei ddatblygu i adlewyrchu prif ganfyddiadau’r gwaith ymchwil i frand presennol y gymdeithas dai.  Roedd grwpiau amrywiol yn rhan o’r ymgynghoriad gan gynnwys tenantiaid, staff ac aelodau’r bwrdd.

 

Dywedodd Ffrancon Williams, Prif Weithredwr Adra: “Mae’r ail-frandio yn nodi bod hyn yn amser cyffrous i ni fel cwmni.  Yn ogystal ag ehangu barn pobl am bwy ydym ni a beth yr ydym yn ei wneud, a phwy yr ydym yn eu cynorthwyo, roeddem eisiau brand a fyddai’n cyfleu cwmni modern a dynamig ac i adlewyrchu’r modd y mae CCG wedi tyfu dros y ddeng mlynedd diwethaf.

“Mae newidiadau mawr yn dod, ond rydym ni fel cwmni bob amser yn awyddus i fod ar y blaen a datblygu ein gwasanaethau a sicrhau bod gennym ddyfodol ariannol cadarn fel y gallwn barhau i fuddsoddi yn y stoc tai sydd gennym ar hyn o bryd.”

Mae’r brand a’r enw newydd, Adra wedi’i gyflwyno gyda phalet o liwiau llachar a ffres ym mhob un o bwyntiau cyswllt y cwmni.  Yn ogystal, bydd gwefan modern newydd ar gael ynghyd â fflyd gerbydau.  Roedd yn bryd adolygu’r contract fflyd bresennol beth bynnag ac felly mae hyn wedi digwydd cyd-fynd â’r gwaith brandio newydd.