Gardd Llys yr Eifl

Gardd gymunedol wedi’i thrawsnewid

Gall trigolion cymdeithas dai Adra sy’n byw yn nhai gwarchod Llys yr Eifl, Caernarfon yn awr fwynhau’r awyr agored, diolch i garedigrwydd contractwyr lleol.

Mae Beech Developments yn adeiladu 45 o gartrefi newydd ar safle Ysgol Hendre gynt mewn partneriaeth gyda’r gymdeithas dai i ddarparu tai ar y farchnad agored a thai fforddiadwy i gymuned Caernarfon.  Mae’r ddau barti wedi cytuno, fel rhan o’r gwaith hwn, i roi deunyddiau a llafur gwerth dros £10,000 yn ddi-dâl i greu gardd gymunedol hardd ar gyfer y trigolion.

Roedd y gwaith yn cynnwys lefelu’r tir, draenio, gosod gwelyau plannu pren a chreu ardal patio newydd, yn ogystal â phlannu coed ffrwythau a thirlunio  Un o gontractwyr eraill Adra, G. H. James sy’n garedig iawn wedi rhoi’r ffensio.

Digar Llys yr Eifl

Dywedodd Ian Gillespie, Uwch Syrfëwr Datblygu Adra:  “Mae’n braf gweld ein contractwyr yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Rydym bob amser yn ceisio sicrhau bod ein datblygiadau yn rhoi gwerth cymunedol ac yn gweithio gyda phob un o’n contractwyr a’r gymuned leol i weld beth allwn gynnig.

“Mae Beech Developments wedi mynd tu hwnt i’n gofynion drwy roi oriau o lafur yn ddi-dâl a gwerth miloedd o ddeunyddiau i greu gardd y mae trigolion wrth ei bodd gyda hi.  Mae’n golygu bod ganddynt lecyn hyfryd i gymdeithasu yn yr awyr agored ac maent yn awyddus iawn i ddechrau plannu a thyfu eu cynnyrch eu hunain.”

Dywedodd Mike Roberts, Cyfarwyddwr Cynllunio gyda Beech:  “Mae bob amser yn braf helpu achosion lleol a rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned lle rydym yn gweithio.  Rydym yn falch o’n gwaith ac mae’n braf gweld bod yr ethos o gydweithio gyda Chymdeithasau Tai lleol fel Adra yn creu budd ehangach i’r gymuned.”

 

Sut i gael un o’r cartrefi yma

Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu cartref newydd, mae croeso i chi ddod i’n gweld yng Nghae’r Ysgol; mae swyddfa Gwerthu a Marchnata Beech Developments ar agor bob dydd Sadwrn rhwng 10am a 4pm neu ewch i’n gwefan beech-developments.co.uk i gael manylion am ein datblygiadau sydd wedi ennill gwobrau lleol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynllun rhentu i brynu cofrestrwch eich manylion gyda Tai Teg

Gwefan Tai Teg

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhentu tŷ cymdeithasol cofrestrwch gyda Thîm Opsiynau Tai Cyngor Gwynedd01286685100