Cefnogaeth i chi

Beth yw’r Gwasanaeth Cefnogi Tenantiaid?

Mae ein gwasanaeth Cefnogi Tenantiaid yn cynnig cefnogaeth i denantiaid bregus sydd mewn angen.

Rydym am helpu unigolion i gynnal eu tenantiaeth drwy ddatblygu eu sgiliau bywyd.

Mae’r gwasanaeth yma yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru drwy raglen Cefnogi Pobl.

Gall ein Swyddog Cefnogi Tenantiaid gynnig help gyda:

  • cyngor ar gyllidebu a thrin arian
  • cefnogaeth i gynnal a chadw’r cartref
  • cefnogaeth i datblygu sgiliau gofynnol i alluogi unigolion gynnal eu tenantiaeth
  • cefnogaeth i datblygu sgiliau bywyd
  • cymorth i ddeall hawliau a chyfrifoldebau
  • arweiniad a gwybodaeth ar gyfleoedd cyflogaeth, addysg a hyfforddiant
  • cymorth i gwblhau ffurflenni a cheisiadau, hawlio budd-dal
  • mynediad i asiantaethau priodol

 

Pwy all derbyn help

• tenantiaid gyda phroblemau dyledion
• tenantiaid newydd sydd angen help
• tenantiaid sy’n dioddef o broblemau iechyd

Cysylltwch â ni os ydych eisiau help

Amcan y cynllun yw gwneud yn siŵr fod tenantiaid yn cael eu trin efo urddas a pharch, ac yn cael annibynniaeth, dewis a rheolaeth dros eu bywydau.