Aborth o’r Arolwg Costau Byw

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn gofyn eich barn am yr argyfwng costau byw.

Fe wnaeth 150 ohonoch ymateb i’r ymgynghoriad, diolch i chi gyd am roi eich amser i rannu eich barn a’ch profiadau gyda ni. O’ch adborth, mae’n amlwg bod y cynnydd mewn costau byw yn destun pryder i lawer ohonoch.

Dywedodd dros 80% ohonoch eich bod yn teimlo bod eich sefyllfa ariannol eleni yn waeth o’i gymharu â’r adeg hon y llynedd. Biliau ynni yw’r prif bryder, yna cynnydd yn costau bwyd a’ch gallu i dalu eich rent.

  1. O’i gymharu â’r adeg hon y llynedd, yw eich sefyllfa ariannol

2. Ydych chi wedi cael trafferth talu biliau nwy a thrydan?

3. Sut y byddwch yn ymdopi â’r cynnydd disgwyliedig mewn costau ynni dros y gaeaf? (Ticiwch bob un sy’n berthnasol)

4.Dros y 12 mis diwethaf, ydych chi wedi methu neu wedi bod yn hwyr gyda thaliadau rhent?

5. Dros y 12 mis diwethaf, a ydych chi wedi gorfod dibynnu ar unrhyw un o’r canlynol i dalu biliau bob dydd? (Ticiwch bob un sy’n berthnasol)

6. Ydych chi wedi gorfod defnyddio banc bwyd eleni?

7. Beth yw eich pryder mwyaf am yr argyfwng costau byw? 

 

8. A ydych yn hawlio unrhyw un o’r canlynol? (Ticiwch bob un sy’n berthnasol)

9. A oes unrhyw gymorth y gallai Adra neu ein partneriaid ei ddarparu a fyddai, yn eich barn chi, yn eich helpu yn ystod yr argyfwng costau byw? Nodwch pa gefnogaeth fyddai’n eich helpu.

  • “Gostwng ein rhent”
  • “Helpu i gadw costau gwresogi i lawr”
  • “Rydw’n credu’n onest y byddai rhewi rhent yn helpu. Rwyf wedi gweld fy rhent yn cynyddu o £75.75 yr wythnos ym mis Ionawr 2018 I £97.69 yn 2022…mae hynny’n gynnydd o £21.92 sy’n gynnydd o 28% rwy’n credu. Dylai’r math hwn o dai fod yn rhatach na rhentu preifat”
  • “System wresogi fwy effeithiol ”

10.Hoffech chi i rywun o’n tîm gysylltu â chi am help neu gyngor ar arian, budd-daliadau, arbed ynni neu gefnogaeth i gynnal eich tenantiaeth?

Diolch yn fawr.

Mae eich adborth o gymorth mawr i ni ddeall beth yw’r anghenion a’r pryderon mwyaf, ac os oes modd i ni a’n partneriaid gynnig cymorth pellach mewn rhai meysydd.  

Ein ymateb ni

• Siarad â aelod o’n tîm – Gan fod sefyllfa personol pawb yn wahanol, rydym yn eich annog i gysylltu gyda un o’n swyddogion all eich helpu i weld os ydych yn gymwys am unrhyw grantiau neu gefnogaeth pellach. Gallwn hefyd eich cyfeirio at eraill am gymorth pellach felly plis cysylltwch efo ni.

• Cyngor ar ynni- gall ein Wardeniaid Ynni eich helpu i arbed ynni yn eich cartref, esbonio biliau a tariffiau, eich helpu i ddeall a rhaglennu eich system wresogi a helpu ymgeisio am grantiau a disgowntiau gwahanol.
• Buddsoddi yn ein tai- Rydym yn buddsoddi yn ein stoc tai presennol trwy ein rhaglen gwella asedau. Mae’r gwaith yma yn amrywio o gartref i gartref a gall gynnwys gwaith insiwleiddio allanol, ffenestri a drysau newydd a gosod paneli solar. Os oes gennych unrhyw gais am waith trwsio cysylltwch efo ni drwy’r dulliau arferol.
• Gwybodaeth – Byddwn yn diweddaru ein tudalen argyfwng costau byw ar y wefan yn rheolaidd. Mae gwybodaeth yma am yr holl gymorth sydd ar gael. Dilynwch ni hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol i glywed y newyddion diweddaraf am yr argyfwng a pha gymorth sydd ar gael gennym ni ag eraill.