Dechrau gwaith ar fflatiau newydd ym Mangor
Rydym yn darparu cartrefi o safon yng ngogledd Cymru, yn fuan byddwn yn adeiladu 17 fflat fforddiadwy newydd ym Mangor.
Mae’r cynllun gwerth £1.8miliwn yn cynnwys wyth fflat yn Nhrem Elidir gyda chymysgedd o bedwar fflat un llofft a phedwar fflat dwy lofft. Mae naw fflat yn cael eu hadeiladu ar hen safle Kwik Save ar waelod y stryd fawr yn ardal Hirael hefyd. Bydd pedwar fflat un llofft a phum fflat dwy lofft yn cael eu hadeiladu yno. Mae’r fflatiau yn cael eu hadeiladu mewn ardaloedd lle mae’r galw am eiddo cymdeithasol llai yn uchel.
Cydweithio
Gareth Morris Construction (GMC) sydd wedi eu lleoli yng Ngogledd Cymru sy’n adeiladu’r fflatiau ar ein rhan gyda Wakemans o Gaernarfon wedi eu penodi fel asiant ar y cynllun stryd fawr. Rydym yn disgwyl y bydd y fflatiau wedi eu cwblhau erbyn Haf 2020.
Dywedodd Daniel Parry, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Asedau: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio efo Gareth Morris Construction ar y datblygiadau yma. Gyda thua 1800 o ymgeiswyr ar y rhestr aros am dai fforddiadwy ym Mangor, mae’n bwysig ein bod ni yn chwarae ein rhan i gwrdd â’r galw am dai a rhoi cartrefi effeithlon, modern a chyffyrddus i bobl yn y cymunedau lle maent eisiau byw.
“Rydym wedi buddsoddi £1.5miliwn mewn gwaith adfywio sylweddol yn Hirael ac wedi adeiladu cartrefi newydd ym Maesgeirchen, Tan y Bryn a Phorth Penrhyn. Dros y saith mlynedd nesaf, yr amcan yw adeiladu 800 o gartrefi newydd ar draws gogledd Cymru. Mae Bangor yn ardal a fydd yn cael budd o fwy o gartrefi newydd wrth i ni ymdrechu i gyrraedd y targed yma.”
Datblygu perthynas
Ychwanegodd Dylan Wyn Jones, Rheolwr Gweithrediadau GMC: “Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein perthynas efo Adra i ddarparu cartrefi fforddiadwy yng nghymuned Bangor. Wrth symud ymlaen o brosiectau llwyddiannus eraill yr ydym wedi eu cwblhau i Adra yn Hirael a Maesgeirchen, rydym yn edrych ymlaen at gyflawni dau brosiect llwyddiannus ac arloesol arall ym Mangor. Bydd y prosiectau hyn yn rhoi buddion economaidd a chymdeithasol i’r gymuned. Bydd hyn yn cynnwys cyflogaeth a hyfforddiant lleol ynghyd â gweithio gyda busnesau bach lleol.”
Cofrestru
Os oes gennych ddiddordeb rhentu un o’r cartrefi yma, cofrestrwch eich diddordeb gyda Thîm Opsiynau Tai Gwynedd ar 01286 685100 neu opsiynautai@gwynedd.llyw.cymru
Caiff y cynlluniau yma eu hariannu drwy grant Llywodraeth Cymru ac arian preifat trwyddom ni.