Profiadau gwerthfawr i bobl ifanc dros yr haf

Mae 16 person ifanc o Pwllheli a Bangor wedi bod yn cymryd rhan mewn cynllun sy’n cael ei redeg ganddom ni i wella eu cymunedau dros yr haf.

Mae’r cynllun wardeiniaid ifanc yn brosiect unigryw sy’n rhoi’r cyfle i blant weithio gyda Swyddog Tai Cymunedol Adra ar eu stadau dros yr haf i’w dysgu am y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud yn ein cymunedau er mwyn eu gwneud yn lefydd braf a saff i fyw.

Mae’r cynllun hwn wedi cael ei redeg pob haf ers 2010, ac mae dros 140 o blant o ardaloedd ar draws y sir wedi cymryd rhan.

Dywedodd Sarah Schofield, ein Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau: “Mae ein cynllun Wardeiniaid Ifanc yn rhoi cyfle gwych i bobl ifanc i ddysgu fwy am eu cymunedau. Yn ogystal â meddwl am y swyddi hoffai’r wardeiniaid wneud ar ôl gadael yr ysgol. Nod y cynllun yw rhoi gwahanol brofiadau i’r plant er mwyn eu hysbrydoli i feddwl ac edrych ar ôl eu cymunedau.

“Yn ogystal a gweithio gyda’r Heddlu, Gwasanaeth Tân, Ambiwlans Awyr a Llys Y Goron, roeddent yn gweithio gyda timau gwahanol o fewn y cwmni ac yn cymryd rhan mewn sesiynau tacluso’r stad. Mae’r sesiynau hyn wedi rhoi cyfle i’r plant weld beth sydd yn digwydd yn eu ardaloedd lleol. A gweld sut gallwn wneud ein cymunedau yn lefydd gwell i fyw ynddynt drwy weithio gyda’n gilydd. Rydym yn falch iawn o gynnig y cyfle yma i bobl ifanc Gwynedd pob blwyddyn”.

Gweithgareddau

Treuliodd y criw o ddisgyblion o flwyddyn pump ysgolion Pwllheli a Bangor ddiwrnod yr wythnos gyda Swyddogion Tai Cymunedol Adra dros y gwyliau. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys;

  • diwrnod gyda’r Gwasanaeth Tân
  • diwrnod gyda’r Heddlu Gogledd Cymru
  • ymweld gyda chriw Ambiwlans Awyr yn Dinas Dinlle
  • sesiwn ffitrwydd a diogelwch ar y dŵr ym Mhlas Heli Pwllheli
  • ymweliad â’r paneli Solar yn Plas Newydd
  • ymweliad â’r fferm sy’n gwneud hufen ia Glasu yn Edern
  • diwrnod gyda criw ‘Wild Elements’
  • gweithgareddau clirio stadau

a llawer iawn mwy. Derbyniodd y bobl ifanc dystysgrif ar ddiwedd y cynllun i ddiolch iddynt am eu gwaith.

Dywedodd Hope Roberts o Ysgol Glan Cegin, Bangor: “Roeddwn yn cael trafferth cysgu’r noson cynt gan fy mod yn edrych ‘mlaen gymaint.”

Ychwanegodd Rebecca Roberts, rhiant un o’r Wardeiniaid Ifanc: “Rwyf yn teimlo bod y cynllun yn syniad da iawn, mae pawb wedi mwynhau ac mae Efa yn drist iawn bod y cynllun wedi dod i ben.”

Diolch i’r ysgolion a’r holl asiantaethau am weithio gyda Adra ar y cynllun pwysig hwn.