gRAPHIC OF PIGGY BANK AND HOUSE KEYS

Newid eich Rhent

Mae ein cwsmeriaid yn bwysig i ni ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn agored ac yn onest gyda chi. Mae ein Bwrdd wedi cymeradwyo cynnydd rhent o 6.5%.

Efallai y bydd gennych lawer o gwestiynau:

Pam mae fy rhent yn cynyddu?

Mae gan Adra, fel pob cymdeithas dai arall, nifer o heriau ariannol sy’n creu pwysau sylweddol. Ein prif ffynhonnell incwm i ddarparu gwasanaethau a chwrdd â’r angen lleol am dai yw rhent. Oherwydd chwyddiant, yr ydym wedi gorfod dod i’r penderfyniad i godi rhenti, ond yr ydym wedi sicrhau bod y rhent a weithredir gan Adra yn sylweddol is na chwyddiant ac yr ydym yn hyderus fod y cydbwysedd hwnnw’n gywir.

Faint mae fy rhent yn cynyddu?

6.5% (mae ein rhenti marchnad yn codi 7%).

Ni allaf fforddio talu fy rhent, beth allaf ei wneud?

Os ydych yn poeni am dalu eich rhent a/neu daliadau, siaradwch â ni cyn gynted â phosibl. Rydyn ni’n gwybod bod gwneud y cam cyntaf i ofyn am help yn gallu bod yn frawychus, ond siaradwch â ni cyn gynted ag y byddwch chi’n poeni am allu talu. Po gynharaf y byddwch yn siarad â ni, y cyflymaf y gallwn helpu. Gall tîm Rhenti ac Incwm Adra eich cefnogi. Deallwn fod hwn yn gyfnod anodd.

A yw’r sefyllfa hon yr un fath ledled Cymru?

I adlewyrchu’r amodau economaidd heriol presennol, capiodd Llywodraeth Cymru y swm y gall rhenti ei gynyddu yn 2023/24 ar +6.5%. Fodd bynnag, mae hyn yn dal yn llawer is na chyfradd chwyddiant. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r effaith ar ein cwsmeriaid.

Beth ydych chi’n mynd i’w wneud i helpu a chefnogi eich cwsmeriaid yn ystod y cyfnod hwn?

Mae ein Bwrdd hefyd wedi cytuno i gyflogi Cydlynydd Lles a fydd yn gweithio i gefnogi ein tenantiaid i wneud y mwyaf o incwm a budd-daliadau y gellir ei hawlio.