Adra and Novus staff outside Adra homes doing a clean up

Adra yn glanhau strydoedd

Ymunodd staff o Adra â chydweithwyr o Novus heddiw (Dydd Llun) ar gyfer y fenter ddiweddaraf i lanhau cymunedau.

Trefnwyd sesiwn codi sbwriel ar hyd Ffordd Caernarfon, Bangor, mewn ymateb i bryderon a godwyd gan denantiaid lleol ac adborth gan Novus, contractwr Adra sy’n gwneud gwaith yn yr ardal. Mae’r ymgyrch codi sbwriel hefyd yn rhan o ymrwymiadau gwerth cymdeithasol Novus ar y contract hwn.

Roeddem wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth â Novus i lanhau ein strydoedd a gwneud iddynt edrych yn dda.

Mae tenantiaid yn dweud wrthym fod cael gwared ar sbwriel a adawyd ar y strydoedd yn fater o bryder iddynt. Rydym yn gweithio gyda chymunedau ar fentrau fel hyn yn rheolaidd, i wella ansawdd bywyd trigolion lleol ac i annog pobl i ymfalchïo yn eu cymunedau.

Roeddem wrth ein bodd gyda’r ymateb cadarnhaol a gafwyd gan denantiaid ar hyd Ffordd Caernarfon ac edrychwn ymlaen at gynnal sesiynau codi sbwriel pellach mewn cymunedau eraill yn y dyfodol.

Dywedodd llefarydd ar ran Novus: “Mae Novus newydd ddechrau prosiect i Gymdeithas Tai Adra ym Mangor. Rydym wedi cael cais i newid y to, gosod inswleiddiad wal allanol, ffenestri a drysau newydd ar floc o fflatiau. Rydym wedi sylwi bod yr ardal o amgylch y bloc wedi’i gorchuddio’n eithaf gwael gan sbwriel, felly mae tîm safle Novus, a chynrychiolwyr o Adra wedi dod o hyd i amser yn eu diwrnod prysur heddiw i gynnal sesiwn codi sbwriel o’r ardal.

“Heddiw, mae nifer wych o staff Novus ac Adra wedi treulio awr yn glanhau’r ardal o amgylch y bloc ac yna diod boeth hyfryd a danteithion. Rhyngom i gyd rydym wedi llenwi dros 10 bag o sbwriel cyffredinol a chwpl o fagiau o ddail”.