Ail-ariannu ar gyfer dyfodol cryfach

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi cwblhau’n llwyddiannus proses ail-ariannu sylweddol gwerth £155m gyda benthycwyr newydd.

Fel prif gyflenwr tai cymdeithasol a fforddiadwy yng ngogledd Cymru byddwn yn awr, trwy’r trefniant cyllid newydd yma, yn gallu gwneud llawer mwy o’r hyn yr ydym yn ei wneud yn dda – adeiladau hyd yn oed rhagor o dai fforddiadwy, a chael effaith gadarnhaol ar y cymunedau lleol yr ydym yn gweithio gyda hwy.

Ymddengys bod y galw am dai a chartrefi fforddiadwy ar rent cymdeithasol ar draws Gogledd Cymru yn cynyddu; bydd sicrhau £155m o gyllid newydd ar gyfraddau llog deniadol iawn yn golygu arbedion sylweddol o ran costau llog yn y dyfodol a bydd yn cynyddu ein capasiti benthyca o £72 miliwn, i helpu adeiladau rhagor o dai fforddiadwy yn y rhanbarth.

Meddai Rhys Parry, ein Cyfarwyddwr Cyllid: “Mae sicrhau’r trefniant ail-ariannu yma yn rhoi llawer mwy o hyblygrwydd i ni dyfu fel cwmni ac yn golygu ein bod wedi haneru’r gyfradd llog cyffredinol sy’n daladwy. Roedd yn bryd dileu’r cyfamodau a’r rheolaethau ar y cynllun busnes yr oeddem yn eu hwynebu ar y ddyled etifeddol oherwydd ein bod yn gymdeithas tai a sefydlwyd yn sgil trosglwyddo stoc, fel bod modd i ni wireddu ein potensial i gyflenwi tai newydd a buddsoddi hyd yn oed mwy yn ein stoc gyfredol, a chyflenwi tai newydd y mae gwir angen amdanynt ledled gogledd a chanolbarth Cymru.

Ychwanegodd Rhys: “Dros y ddeng mlynedd diwethaf, rydym wedi dangos ein gallu i gyflenwi tai a gwasanaethau cwsmer. Gyda 178 uned yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, mae gennym enw da am adeiladu eiddo newydd, a darparu’r gefnogaeth briodol ar gyfer cymunedau a phobl sy’n byw yn ein cartrefi. Mae’r ail-ariannu yn golygu bod modd i ni yn awr ddechrau datblygu dros 1,350 o dai ychwanegol dros y 10 mlynedd nesaf. Mae hyn tua 1,000 yn rhagor o gartrefi na fyddem wedi gallu eu cyflenwi o dan yr hen drefn gyllido.”

Delwedd o'r tai gorffenedig yn Llys Mathieson

“Rydym hefyd yn falch bod ein cryfder ariannol a gweithredol newydd yn golygu bod modd i ni ddenu diddordeb sylweddol ymhlith benthycwyr. Cafwyd cynigion o bron i £500m – deirgwaith yn uwch na’r hyn yr oedd gofyn amdano. Mae’n bleser nodi ein bod hefyd wedi denu benthycwr newydd i’r sector tai cymdeithasol yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen at fwynhau perthynas tymor hir gyda’n benthycwr newydd.”