Wardeiniaid Ynni yn arbed arian i’n cwsmeriaid

Bob blwyddyn rydym yn trefnu ymweliadau stad  mewn gwahanol ardaloedd. Rydym yn teithio o Aberdaron i Dywyn i gwrdd a’n cwsmeriaid ni wyneb yn wyneb i glywed eich barn chi am eich cartref a’n perfformiad ni.

Dros Haf 2019 aeth rhai aelodau o staff o amgylch ein cartrefi yn ardal Rhostryfan.

Yn ystod unymweliad stad yr Haf diwethaf roedd ein staff yn gofyn i bobl os hoffent dderbyn cyngor ar sut i arbed arian ar eu biliau ynni. Yn dilyn hyn rydym wedi cyfeirio Mrs Kelly o Rhostryfan at ein  Wardeiniaid Ynni.

Yn dilyn eu gwaith ymchwil roedd y Wardeiniaid yn cynghori Mrs Kelly i symud ei darparwr trydan. Canlyniad hyn oedd fod Mrs Kelly yn arbed £478 y flwyddyn ar ei bil trydan.

Dywedodd Mari Tudur o’n Tîm Cyswllt Cymunedol,

“Mae ein Wardeiniadi yn gwneud gwaith gwych a gall eu cymorth a’u harbenigedd wneud wahaniaeth enfawr i’ch poced. Peidiwch ag oedi cysylltwch â ni, dachi byth yn gwybod faint allwch ei arbed.”

Peidiwch a gadael o hyn fynd yn drech na chi. Cysylltwch â ni gall ein Wareiniaid Ynni eich helpu i chwilio am ddarparwyr eraill a hefyd rhoi cymorth i chi ar sut i ddefnyddio eich gwresogydd yn fwy effeithiol.

Sut mae derbyn y gwsanaeth

Felly os hoffech derbyn cyngor sut i leihau eich biliau ynni cysylltwch â’r Tîm Cyswllt Cymunedol:

  • ffôn: 0300 123 8084
  • ebost: cymunedol@adra.co.uk