Swyddogion yn cyfarfod i drafod Trefnant

Ein datblygiad tai cyntaf yn Sir Ddinbych

Rydym yn falch o fod yn ehangu ar draws gogledd Cymru wrth i’r gwaith adeiladu ddechrau ar ei datblygiad cyntaf o dai newydd yn Sir Ddinbych, ym mhentref Trefnant.

Mae 13 o gartrefi yn cael eu hadeiladu fel rhan o’r cynllun gwerth £1.7 miliwn ar safle maes glas gyferbyn â thafarn y Trefnant Inn. Bydd y cartrefi yn gymysgedd o:

  • 8 tŷ dwy-ystafell wely
  • 4 tŷ tair-ystafell wely
  • byngalo dwy-ystafell wely.

Mae’r cartrefi yn cael eu hadeiladu gan gwmni lleol, Brenig Construction.

Rydym ni yn ddarparwr tai o safon yng ngogledd Cymru ac yn gofalu am 6,300 o dai ac yn darparu gwasanaethau a cefnogaeth i dros 14,000 o gwsmeriaid. Yn ddiweddar rydym wedi cwblhau datblygiadau yn Wrecsam a Chonwy gyda llawer mwy ar y gweill.

Llynedd, cawsom ganiatâd i dderbyn arian grant i adeiladu yn:

  • Conwy
  • Dinbych
  • Wrecsam
  • ac yn fwy diweddar; Sir Fflint

Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu gwneud cais i Llywodraeth Cymru i adeiladu cartrefi yn y siroedd hyn yn ogystal â Gwynedd.

Mae ein Prif Weithredwr, Ffrancon Williams yn egluro: “Rydym yn falch iawn o fod yn ffurfio partneriaethau newydd ar draws gogledd Cymru, yn darparu tai fforddiadwy o safon mewn ardaloedd lle mae’r galw’n uchel.

“Rydym yn gwmni blaengar sy’n tyfu ac yn anelu i adeiladu 550 o dai ar draws gogledd Cymru dros y dair mlynedd nesaf. Rydym wedi sefydlu nifer o bartneriaethau cyffrous gyda awdurdodau lleol, gyda cofrestr dai SARTH (Llwybr Mynediad Sengl i Dai) a chofrestr tai fforddiadwy, Tai Teg. Yn ogystal a nifer o gontractwyr a chwmnïau datblygu fydd yn gweithio gyda ni i adeiladu’r tai.

“Hoffwn ddiolch i’n partneriaid yn Cyngor Sir Ddinbych am ein croesawu fel partner o ddewis, ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu mwy o dai yn y sir gyda eu cefnogaeth dros y blynyddoedd nesaf. Mae cyfnod cyffrous o’n blaenau.”

Trefnant o'r stryd

Dywedodd Mark Parry, Rheolwr Gyfarwyddwr Brenig Construction: “Fel busnes lleol mae’n dda bod ni wedi cael cynnig gwaith pellach gan Adra i ddatblygu 13 o dai newydd. Bydd Brenig yn cyflogi pobl leoled ac yn defnyddio’r gadwyn cyflenwi lleol i adeiladu’r tai yma mewn ardal o Sir Ddinbych lle mae’r galw’n uchel. Byddwn hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd hyfforddi a prentisiaethau wrth i’r gwaith ddatblygu.”

Disgwylir i’r cartrefi fod yn barod erbyn gaeaf 2020.

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhentu un o’r cartrefi hyn cofrestrwch eich diddordeb gyda SARTH:

  • Ebost: housingregister@denbighshire.gov.uk
  • Ffôn: 01824 712911.

Mae’r cynllun hwn yn cael ei ariannu ganddom ni a Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.