Cynghorydd lleol a rheolwr Plass Hedd

Trigolion Plas Hedd yn elwa o’r Gronfa Fuddsoddi Cymunedol

Plas Hedd oedd yn llwyddiannus yn y rownd yma o’r Gronfa Fuddsoddi Cymunedol sydd gennym ar gyfer cynnig grantiau o hyd at £1,000 i grwpiau Cymunedol a gwirfoddol. Bwriad y grant yw gwella ein cymunedau a gwella safon byw ein cwsmeriaid.

Aeth Mari o’n tîm Cymunedol draw i Blas Hedd yn ddiweddar i weld y trioglion yno yn mwynhau’r deunyddiau maent wedi eu prynu hefo’r arian y Gronfa.

Mae Plas Hedd wedi ei leoli yng nghanol Maesgeirchen, mae lle i 28 o drigolion i fyw yno. Maent yn gweithio yn agos gyda’r gymuned leol. Gwnaeth y cynghorydd lleol Nigel Pickavance gais ar ran y cartref i dderbyn arian i brynu mwy o gemau ar gyfer y trigolion. Mae nifer o’r trigolion yn byw gyda dementia, mae chwarae gemau bwrdd fel hyn yn ymarfer corff gwych i’r ymenydd.

Trigolion yn chwarae gemau Trigolion a Staff Plas Hedd yn mwynhau'r gemau

Dywedodd Nigel: “Mae’r gemau yma am wneud gwahaniaeth mawr i fywyda trigolion Plas Hedd, mae pawb wrth eu boddau gyda’r gath rhyngweithiol. Bydd staff a trigolion yn elwa o’r offer ac adnoddau newydd yma. Diolch yn fawr Adra.”

Yn ddiweddar mae plant o Maesgeirchen wedi cychwyn mynd yno ar ddydd Sadwrn i chwarae gemau a chymdeithasu gyda’r  trigolion. Dywedodd Mari, o’n Tîm Cymunedol: “Mae cymaint o waith da yn mynd ymlaen yn y cartref a phob aelod o staff yn ymdrechu i wneud Plas Hedd yn le cartrefol iawn.”

Trigolion Plas Hedd

Dyddiad Cau nesaf

Y dyddiad cau ar gyfer y rownd nesaf yw 15 Chwefror 2020.

Rydym yn annog unrhyw grŵp sydd angen nawdd ar gyfer prosiect cymunedol i gyflwyno cais.

Os oes gennych chi syniad am brosiect ac yn dymuno derbyn fwy o wybodaeth am y Gronfa, mae croeso i chi gysylltu gyda’r Tim Cyswllt Cymunedol:

  • anfon e-bost at cymunedol@adra.co.uk
  • ffonio 0300 123 8084