Cydweithio er mwyn cefnogi banciau bwyd Gwynedd

Mae Adra, darparwr tai cymdeithasol Gwynedd a gogledd Cymru, a Chyngor Gwynedd yn gweithio efo’i gilydd er mwyn cefnogi banciau bwyd Gwynedd.

Gyda siopau a busnesau wedi gorfod cau, a phobl yn colli eu gwaith a’u hincwm, mae nifer gynyddol yn gorfod troi at fanciau bwyd am help. Dyma pam mae Adra a Chyngor Gwynedd yn gweithio mewn partneriaeth i gefnogi Banciau Bwyd Gwynedd, drwy gyfrannu i brynu nwyddau angenrheidiol i ddosbarthu i’r holl banciau bwyd ar draws y sir.

Mae Cyngor Gwynedd yn prynu’r nwyddau yn uniongyrchol gan ddau gwmni lleol. Drwy brynu llawer o nwyddau gyda’i gilydd mewn pryniant swmp, mae’n golygu bod yr arian a’r gefnogaeth yn mynd ymhellach, gan alluogi mwy o fwyd i gyrraedd mwy o bobl ar draws y Sir.

Mae’r rhwydwaith o Fanciau Bwyd drwy Wynedd yn cynnig bocsys bwyd mewn argyfwng ar gyfer unigolion a theuluoedd mewn angen. Mae digon o fwyd am dri diwrnod mewn bocs, ond gyda’r galw’n cynyddu mae mwy o alw am fwydydd i lenwi’r bocsys yma bob wythnos.

Dywedodd Sarah Schofield, Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau Adra:

“Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu cyfrannu at achos mor allweddol, sef y Banciau Bwyd. Mae’r gwasanaeth yma yn chware rôl mor bwysig wrth sicrhau bod bwyd ar gael i’r sawl sydd fwyaf ei angen- dyma un o anghenion mwyaf sylfaenol pobl.

“Rydym yn falch iawn bod ni’n gallu cydweithio efo Cyngor Gwynedd ar hyn. Mae hi mor bwysig bod sefydliadau yn tynnu at ei gilydd i helpu ein pobl a’n cymunedau, yn ystod amser mor heriol.”

“Nid ar gyfer pobl sy’n methu gadael y tŷ oherwydd COVID19 mae’r banciau bwyd,” meddai’r Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd Cyngor Gwynedd, sy’n Cadeirio Grŵp Cyswllt Trydydd Sector yn y sir.

“Ond unigolion a theuluoedd sydd heb arian i brynu bwyd. Mae llawer yn medru cael help i nôl bwyd gan aelod teulu, ffrind neu gymydog, ond mae eraill yn methu fforddio rhoi bwyd ar y bwrdd, ac yn methu cael help.”

 

Am ragor o fanylion am y Banciau Bwyd yng Ngwynedd, ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/HelpCymunedol