Swydd Prif Weithredwr

Bangor, Gogledd Cymru

£128k +10% lwfans car

 

Pwy ydym ni

Ni yw Adra.

Rydym yn darparu cartrefi o safon yng ngogledd Cymru, ac yn falch ein bod yn gofalu am 7,000 o gartrefi ac yn darparu gwasanaethau i dros 14,500 o gwsmeriaid lleol. Wrth i chi ddod i’n hadnabod, byddwch yn sylweddoli nad ydym yn sefydliad sy’n sefyll yn ei unfan.

Dros y blynyddoedd nesaf byddwn wedi adeiladu nifer sylweddol o gartrefi newydd ym mhob rhan o ogledd Cymru, ac er yn hynod uchelgeisiol rydym yr un mor benderfynol o warchod a datblygu diwylliant a threftadaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. 

Bydd ein Prif Weithredwr Grŵp presennol yn ymddeol eleni, felly rydym yn awr yn chwilio am arweinydd strategol, ac yn un â gweledigaeth a fydd yn ein hysbrydoli wrth i ni ddarparu 900 o gartrefi newydd erbyn 2025, yn ogystal â buddsoddi £60 miliwn yn ein heiddo presennol.

Rydym wedi cyflawni canlyniadau rhagorol dros y blynyddoedd drwy fod yn uchelgeisiol, yn arloesol a thrwy ganolbwyntio ar y cwsmer, ac i gynnal ein llwyddiant rydym yn benderfynol o gyflawni ein cynllun corfforaethol 2022-25 sy’n amlinellu ein nodau allweddol, ein gweledigaeth a’n gwerthoedd, a’n hegwyddorion sylfaenol. 

Fel ein Prif Weithredwr Grŵp newydd, byddwch yn rhannu ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau rhagorol, sicrhau twf a chreu diwylliant lle gall pob cydweithiwr ffynnu. Byddwch hefyd yn gwerthfawrogi’r rôl allweddol y mae Adra yn ei chwarae o fewn ein cymunedau a’r gwerth rydym yn cyfrannu at ein partneriaethau niferus, ac felly mae bod yn rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol.  

Gyda phrofiad arwain uwch ym maes tai neu sector cymhleth tebyg, byddwch naill ai eisoes yn Brif Weithredwr neu’n dymuno bod yn Brif Weithredwr gyda hanes nodedig o gyflawni canlyniadau. Byddwch yn dod â phrofiad sylweddol i Adra o gyflawni newid cadarnhaol, datblygu a gwella partneriaethau llwyddiannus, ac arwain timau amlddisgyblaethol medrus. 

Os ydych chi’n rhannu ein gweledigaeth o ddarparu gwasanaethau rhagorol i’n cwsmeriaid, buddsoddi yn ein stoc bresennol, ac adeiladu mwy o gartrefi fforddiadwy carbon isel o ansawdd uchel, yna mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y pecyn ymgeiswyr.

Lawrlwytho Pecyn Recriwtio

I gael trafodaeth gyfrinachol, cysylltwch â Nick Roberts yn GatenbySanderson ar 07393 013697.

Dyddiad cau yw 5pm, Dydd Gwener, 10 Chwefror 2023