Trosglwyddo Contract Diogel (Cyfnewid)
Beth yw Trosglwyddo Contract Diogel?
Trosglwyddo contract yw pan mae dau denant neu fwy yn cytuno i gyfnewid eu cartrefi, gyda chaniatâd eu landlord. Gelwid hyn yn ‘cyfnewid ar y cyd’ (mutual exchange).
- Gall tenant gyfnewid gyda un tenant arall neu fwy.
- Rhaid i bawb gael caniatâd ysgrifenedig gan eu landlord a llofnodi’r holl ddogfennau cyfreithiol cyn symud.
- Os ydych chi’n symud cyn llofnodi’r papurau, ni fydd y trosglwyddiad yn ddilys a bydd rhaid i chi symud yn ôl.
Pwy sy’n cael cyfnewid
- Dim ond deiliaid contract diogel sydd â’r hawl i gyfnewid eu cartrefi gyda deiliad contract diogel arall – ond rhaid i chi ofyn am ein caniatâd yn gyntaf.
Nid yw hyn yn cynnwys eiddo rent marchnad, rent canolradd, na Rhentu i Berchnogi.
- Gyda’n caniatâd, gallwch gyfnewid gyda deiliad contract diogel arall sy’n byw mewn eiddo gan landlord cymunedol – fel arfer y Cyngor lleol neu gymdeithas dai. (fel Grŵp Cynefin, Tai Gogledd Cymru neu ni)
Taflen Wybodaeth Trosglwyddo Contract Diogel (Cyfnewid)
Ddim yn siwr os oes gen ti Gontract Diogel?
Sut i gyfnewid
Os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo eich contract, fel arfer gallwch ddod o hyd i eraill i drosglwyddo gydag ar-lein, ar grwpiau cyfryngau cymdeithasol lleol ac ati.
Ar ôl i chi ddod o hyd i rhywun sydd eisiau trosglwyddo, gallwch ofyn am ganiatâd drwy lenwi ffurflen gais a’i dychwelyd atom.
Ffurflen caniatad trosglwyddo (word)
Ffurflen caniatad trosglwyddo (pdf)
Ar ôl i ni dderbyn y ffurflen gais, byddwn yn cynnal y gwiriadau perthnasol ar ein hochr ac yn cysylltu gyda chi o fewn mis gyda’n penderfyniad.
Pethau byddwn yn eu ystyried wrth wneud ein penderfyniad
- Maint yr eiddo, a yw’n rhy fawr neu’n rhy fach.
- Pa mor addas yw’r eiddo, gan gynnwys unrhyw addasiadau sydd wedi eu gwneud iddo.
- Unrhyw broblemau parhaol gyda’r contract, megis unrhyw ôl-ddyledion rhent neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Cyflwr yr eiddo, ac a oes angen atgyweirio neu ddatrys unrhyw beth yn gyntaf.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y broses, cysylltwch â ni.
